Mae Ken Skates, Gweinidog yr Economi, wedi cyhoeddi bod bron £2.5 miliwn wedi'i gymeradwyo i helpu busnesau Cymru i addasu i ymdopi â heriau Brexit ers lansio Rhaglen Cydnerthedd Busnesau Brexit Llywodraeth Cymru y llynedd.
Mae cyfanswm o 51 o fusnesau cymwys wedi'u cymeradwyo i gael rhwng £10,000 a £100,000 o gyllid fel rhan o Gronfa Grant Cydnerthedd Busnesau Brexit, fel eu bod yn gallu buddsoddi mewn dulliau i oresgyn heriau dybryd sy'n ymwneud â Brexit.
Ymhlith y cwmnïau sydd wedi elwa ar gymorth y mae Peter Jones (ILG) Ltd o'r Fenni - un o brif ddarparwyr y byd o ran cario offer diogelwch a chyfathrebu.
Ar ôl nodi effeithiau negyddol posibl ar ei gadwyn gyflenwi a'i gynnig deniadol o gynhyrchion, ymgeisiodd y cwmni am gyfanswm o £49,500 o Grant Cydnerthedd Brexit.
Roedd hyn wedi galluogi'r cwmni i fuddsoddi mewn dau beiriant mowldio chwistrellu plastig sy'n galluogi'r busnes i weithgynhyrchu nifer o gydrannau'n fewnol yn hytrach na'u mewnforio o Ewrop.
Mae Peter Jones (ILG) hefyd yn bwriadu buddsoddi rhagor o arian grant mewn offer profi a gosodion ar gyfer ei adrannau dylunio a chynhyrchu i sicrhau bod ei gynhyrchion o'r ansawdd uchaf pe bai costau sy'n ymwneud â Brexit yn gorfod cael eu trosglwyddo i gwsmeriaid.
Dywedodd Morgan Jones, Cyfarwyddwr Peter Jones (ILG) Ltd:
"Mae'r cyfarwyddyd a'r cyngor gan Busnes Cymru wedi sicrhau ein bod wedi cwblhau’r broses ymgeisio am grant yn ddidrafferth, gyda'r cyllid yn dod i law o fewn wythnosau.
"Mae hyn eisoes wedi ein helpu i brynu a gosod ychydig o'r offer angenrheidiol, ac mae'r gweddill i'w ddisgwyl maes o law.
"Drwy drafod gyda Busnes Cymru, dysgom am wasanaethau eraill sy'n cael eu cynnig megis cyngor i ddatblygu marchnadoedd rhyngwladol, gan gynnwys cyllid ar gyfer arddangos mewn sioeau masnach rhyngwladol. Mae staff marchnata hefyd wedi mynychu cwrs am ddim ar yr arferion a'r technegau diweddaraf ar gyfer gwella presenoldeb ar-lein.
Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi:
"Mae bygythiad Brexit heb gytundeb yn parhau i achosi ansicrwydd mawr yn ein heconomi, ac yn bygwth swyddi a bywoliaeth pobl.
"Mae llawer o fusnesau wedi manteisio ar Gronfa Grant Cydnerthedd Brexit a sefydlom i helpu i ddiogelu ein heconomi yn y dyfodol ac i weithio gyda'r sector busnes i baratoi ar gyfer yr heriau sydd o'm blaenau.
"Mae'n glir bod y cymorth hwn yn helpu cwmnïau ar draws Cymru i ymdopi â heriau ac ansicrwydd Brexit ac i ddatblygu partneriaethau a phrosiectau arloesol newydd. Byddwn yn annog unrhyw gwmni o Gymru i ddarganfod sut y gall Busnes Cymru eu helpu i reoli a pharatoi ar gyfer yr ansicrwydd sy'n parhau ynghylch Brexit.
Ar hyn o bryd mae'r holl gyllid yn y Gronfa wedi'i glustnodi ond mae gwaith ar y gweill i sicrhau y bydd mwy ar gael.
I gael rhagor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael drwy'r Rhaglen Cydnerthedd Busnes Brexit, ewch i Busnes Cymru