Daeth yr ymgynghoriad i ben 15 Awst 2013.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o'r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 237 KB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Mae'r ddogfen hon yn nodi ein cynigion o ran gwella'r trefniadau ar gyfer rhentu cartrefi yng Nghymru, a hynny at ddibenion ymgynghoriad cyhoeddus.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Mae’r ddogfen hon yn disgrifio’r achos o blaid newid y trefniadau ar gyfer rhentu cartrefi yng Nghymru. Mae wedyn yn egluro’r dystiolaeth dros gyflwyno newidiadau ynghyd â’r gwelliannau a ddaw i ran tenantiaid a landlordiaid yn sgil y newidiadau hynny. Mae’n disgrifio ein cynigion ar gyfer y ddeddfwriaeth newydd yr ydym yn bwriadu ei chyflwyno.
Cyhoeddir y ddogfen hon at ddibenion ymgynghoriad cyhoeddus er mwyn gofyn am sylwadau gan bobl sy’n rhentu eu cartrefi ar hyn o bryd pobl a allai ystyried rhentu cartref yn y dyfodol landlordiaid a hefyd sefydliadau sy’n gweithio ym maes tai neu mewn maes cysylltiedig.