Eluned Morgan AC, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol
Ar 9 Gorffennaf, cyhoeddodd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ei adroddiad yn dilyn ei ymchwiliad i 'Cefnogi a Hybu'r Gymraeg'. Heddiw rwyf wedi ysgrifennu at y Pwyllgor yn nodi fy ymateb i'w 14 argymhelliad. Hoffwn ddiolch i bawb a roddodd dystiolaeth i'r Pwyllgor, ac i Aelodau'r Pwyllgor am eu gwaith gofalus wrth ystyried y dystiolaeth.
Mae gennym raglen fentrus a chyffrous ar gyfer ein gwlad i sicrhau bod gennym filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Fel Llywodraeth, rydym wedi ymrwymo i hyn, ac rwyf wrth fy modd bod cymaint o gefnogaeth o wahanol gyfeiriadau i'r uchelgais cyffrous hwn.
Yn y Papur Gwyn a gyhoeddwyd yn 2017, ein dadl oedd bod y pwyslais ym mholisi'r Gymraeg wedi symud yn rhy bell i gyfeiriad rheoleiddio ar draul dulliau polisi eraill. Gan nad oeddwn o'r farn bod cefnogaeth ddigonol i newid y strwythurau er mwyn cyflawni'r nod polisi hwn, penderfynwyd ym mis Chwefror na fyddem yn bwrw ymlaen â'r Bil. Fodd bynnag, rwy'n dal i gefnogi’r dadansoddiad bod angen dod o hyd i well cydbwysedd rhwng rheoleiddio i ddarparu hawliau i siaradwyr Cymraeg ac ymyraethau eraill i:
- gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg i filiwn erbyn 2050;
- dyblu'r defnydd beunyddiol o'r Gymraeg;
- cynnal cymunedau Cymraeg eu hiaith.
Rwyf yn croesawu argymhellion y Pwyllgor felly. Ers y penderfyniad i beidio â bwrw ymlaen â'r Bil, rwyf wedi bod yn creu cynlluniau ar gyfer gweithredu llawer o'r hyn y mae'r Pwyllgor yn galw amdano. Amlinellaf y cynlluniau hynny isod.
Safonau
Mae'n bleser gennyf gadarnhau bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bod rheoliadau newydd ar gyfer safonau yn ymwneud â'r Gymraeg yn cael eu datblygu ar gyfer dau sector -mewn perthynas â chwmnïau dŵr a rheoleiddwyr gofal iechyd. Caiff y rheoliadau hynny eu datblygu mewn ffordd sy'n gyson ag argymhelliad y Pwyllgor o ran addasu safonau, drwy symleiddio neu gyfuno sawl safon sydd â'r un nod neu ddeilliant.
Rydym wedi ymrwymo i sicrhau hawliau pobl mewn perthynas â gwasanaethau Cymraeg, a byddaf yn gwneud datganiad pellach yn yr hydref ynghylch y rhaglen dreigl o safonau.
Perthynas Llywodraeth Cymru â Chomisiynydd y Gymraeg
Pan gyhoeddais y penderfyniad i beidio â bwrw ymlaen â Bil y Gymraeg, fe'i gwnes yn glir fy mod yn disgwyl i Gomisiynydd y Gymraeg wneud rhai newidiadau i'r ffordd y caiff ei swyddogaethau eu cyflawni. I fod yn glir, rwy'n parhau i bwysleisio bod annibyniaeth y Comisiynydd o ran monitro a gorfodi safonau, ac wrth gynnal ymchwiliadau i honiadau o ymyrraeth â'r rhyddid i ddefnyddio'r Gymraeg, yn absoliwt. Mae'r Comisiynydd yn gwbl rydd hefyd i leisio ei farn ar faterion sy'n ymwneud â'r Gymraeg. Fodd bynnag, rwyf yr un mor glir y gall Llywodraeth Cymru a'r Comisiynydd, fel ei gilydd, drwy gydweithio i gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg, gyflawni mwy.
Rwyf wrth fy modd, felly, yn cyhoeddi bod Aled Roberts a minnau wedi cytuno Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth sy'n rhoi eglurder i'r ddau sefydliad ynghylch sut y byddwn yn cydweithio, ac eglurder i randdeiliaid a'r cyhoedd ynghylch pa sefydliad sy'n arwain ar ba elfennau gwaith i geisio cynyddu'r defnydd o'r Gymraeg. Mae'r Memorandwm wedi'i gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru https://llyw.cymru/memorandwm-cyd-ddealltwriaeth-rhwng-comisiynydd-y-gymraeg-llywodraeth-cymru
Rwy'n hyderus y bydd y cam syml hwn yn arwain at ymdrech well, fwy cydlynol gan y ddau sefydliad i gydweithio tuag at y nod cyffredin o gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg.
Prosiect 2050
Mae adroddiad y Pwyllgor yn rhoi sylw i'r dystiolaeth a gafodd gan randdeiliaid a oedd yn teimlo bod elfen goll yn y tirlun presennol o ran gweithredu polisi yn ddigon o ymyrraeth, yn seiliedig ar egwyddorion cynllunio ieithyddol, gyda'r nod o fynd i'r afael â chwestiwn sylfaenol, sef defnydd cymdeithasol o'r Gymraeg. Mae'r rhain yn amcanion rydyn ni i gyd yn eu rhannu. Mae Cyngor Partneriaeth y Gymraeg sy'n rhoi cyngor imi ar strategaeth iaith Gweinidogion Cymru hefyd wedi mynegi dymuniad i ganolbwyntio'n fwy ar gynllunio ieithyddol.
Mae rhai rhanddeiliaid wedi dadlau o blaid sefydlu corff neu asiantaeth allanol newydd i hybu'r Gymraeg (yn ychwanegol at rôl reoleiddio'r Comisiynydd a rôl arwain strategol Llywodraeth Cymru). Rwyf eisoes wedi penderfynu peidio â chreu corff o'r fath ar y sail y byddai'n creu dryswch ymhlith y cyhoedd, a bod risg uchel o ddyblygu swyddogaethau. Byddai hefyd yn creu gorbenion ychwanegol, gan gymryd cyllid prin oddi wrth raglenni a gwasanaethau a fyddai'n help uniongyrchol i gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg.
Rwyf wedi dod i'r casgliad, felly, mai Llywodraeth Cymru sydd yn y sefyllfa orau i arwain ar y gwaith o ddatblygu mentrau newydd i gyflawni Cymraeg 2050. Cymraeg 2050 yw ein cynllun iaith cenedlaethol, a Llywodraeth Cymru felly ddylai roi arweiniad cenedlaethol ar gynllunio ieithyddol.
Er mwyn sicrhau mwy o ffocws a thrylwyredd wrth gynllunio'n ieithyddol, hybu'r Gymraeg a newid ymddygiad ieithyddol, o fewn Llywodraeth Cymru ac yn allanol, rwyf wedi darparu cyllid i sefydlu Prosiect 2050, uned amlddisgyblaethol newydd o fewn Llywodraeth Cymru a fydd yn gyfrifol am yrru Cymraeg 2050 yn ei blaen.
Caiff y cyllid o bron i £30,000 o Ionawr-Mawrth 2020, a £115,000 i ddilyn yn 2020-21 ar sail dangosol, ei ddefnyddio i wella'r arbenigedd cynllunio ieithyddol o fewn Llywodraeth Cymru drwy gyllido swydd newydd o fewn y gwasanaeth sifil i arwain Prosiect 2050, ac i gomisiynu panel o hyd at bedwar cynghorydd arbenigol allanol ar gynllunio ieithyddol a disgyblaethau cysylltiedig megis newid arferion.
Rhoddir y tasgau canlynol i Prosiect 2050:
- cydlynu'r gwaith o gynllunio ein llwybr tuag at sicrhau miliwn o siaradwyr, o'r blynyddoedd cynnar, drwy ddarpariaeth addysg statudol cyfrwng Cymraeg, i addysg ôl-orfodol i Gymraeg i Oedolion;
- creu mentrau newydd, a gwerthuso mentrau cyfredol, gyda'r nod penodol o gyrraedd ein targed o ddyblu defnydd o'r Gymraeg;
- cefnogi meysydd polisi ar draws Llywodraeth Cymru i gyfrannu at y gwaith o gynnal ein cymunedau Cymraeg a chynyddu'r defnydd o'r Gymraeg, yn unol â Cymraeg 2050.
Bydd Prosiect 2050 hefyd yn cydweithio â phartneriaid ledled Cymru a thu hwnt er mwyn cyflawni ein hamcanion gyda'n gilydd. Fel y nodwyd eisoes, bydd Comisiynydd y Gymraeg yn bartner allweddol. Byddwn hefyd yn rhoi croeso cynnes i eraill sy'n rhannu ein hamcanion cenedlaethol o ran y Gymraeg, boed drwy greu arwyddion dwyieithog mewn busnesau, cyfrannu syniadau ar gyfer cynlluniau newydd i weld a chlywed mwy o Gymraeg yn y gymuned, neu i helpu i ledu'r gair.
Bydd Prosiect 2050 yn atebol i mi fel Gweinidog, ac yn gweithio'n agos gyda Chyngor Partneriaeth y Gymraeg, sy'n rhoi cyngor i mi ar ein strategaeth ar gyfer y Gymraeg. Rwy'n hyderus y bydd profiad ac arbenigedd cyfun Prosiect 2050 a'r Cyngor Partneriaeth yn rhoi'r sicrwydd imi ein bod ar y trywydd iawn wrth roi strategaeth Cymraeg 2050 ar waith.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.