Daeth yr ymgynghoriad i ben 14 Gorffennaf 2013.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o'r ymatebion (Saesneg yn unig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 616 KB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Hoffem glywed eich barn ar ganllawiau a fydd yn cael eu cyhoeddi dan Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991 (fel y'i diwygiwyd gan adran 40 o Ddeddf dŵr 2003).
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Mae Adran 2A o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991 yn rhoi'r pwerau inni roi canllawiau i'r Awdurdod Rheoleiddio Gwasanaethau Dŵr (Ofwat). Mae'r canllawiau hyn yn sôn am y cyfraniad y gall Ofwat ei wneud i'n polisïau cymdeithasol ac amgylcheddol. Mae'n rhaid i Ofwat ystyried y canllawiau hyn wrth ymgymryd â'i bwerau a'i ddyletswyddau fel rheoleiddiwr economaidd y diwydiant dŵr a charthffosiaeth.
Mae'r canllawiau yn berthnasol i gwmnïau dŵr a charthffosiaeth sy'n gweithredu'n gyfan gwbl neu'n rhannol yng Nghymru.
Mae'r canllawiau drafft hyn yn adlewyrchu ein polisïau presennol a rhai'r dyfodol. Mae datblygu cynaliadwy yn allweddol i'r modd rydym yn meddwl ac yn gweithredu. Rydym yn sicrhau ein bod yn ystyried effeithiau economaidd cymdeithasol ac hirdymor ein penderfyniadau. Y bwriad yw dod o hyd i atebion a fydd o les i genedlaethau heddiw a chenedlaethau’r dyfodol.
Bydd y canllawiau hyn hefyd yn cyfrannu at adolygiad cyfnodol Ofwat o derfynau pris (PR14).