Yn y canllaw hwn
1. Trosolwg
Mae cynllun Prynu Cartref – Cymru yn rhoi cymorth i aelwydydd drwy roi benthyciad ecwiti iddynt tuag at bris eiddo.
Mae'r cynllun yn helpu pobl na fyddai, fel arall, yn gallu fforddio prynu eiddo ac mae'n arbennig o fanteisiol i gymunedau mwy gwledig lle y gallai fod llai o gyfleoedd i brynu cartref.
Nid yw cynllun Prynu Cartref ar gael ym mhob ardal. Os yw'r cynllun ar gael, rhaid bodloni meini prawf lleol i fod yn gymwys.
Sut mae'n gweithio
O dan gynllun Prynu Cartref – Cymru:
- bydd angen ichi, fel arfer, gyfrannu 70% o bris yr eiddo drwy ddefnyddio morgais a/neu gynilion personol
- bydd angen ichi drefnu morgais gan roddwr benthyciadau sydd wedi'i gymeradwyo.
- bydd angen ichi wneud y taliadau y cytunwyd arnynt i'r benthyciwr morgeisi – ni fydd taliadau yn cael eu gwneud bob mis i'r gymdeithas dai
- rhaid ichi ad-dalu'r benthyciad ecwiti pan fyddwch yn gwerthu'r cartref am ganran gwerth cyfatebol eich cartref pan fyddwch yn ei werthu
- gallwch ddewis ad-dalu’r benthyciad cyn ichi werthu, ac os felly bydd yr hyn y byddwch chi’n ei ad-dalu'n seiliedig ar werth eich cartref bryd hynny
Gwerth y cartref | Eich cyfraniad (70%) | Benthyciad ecwiti (30%) | |
---|---|---|---|
Gwerth yr eiddo pan gaiff ei brynu | £200,000 | £140,000 | £60,000 |
Gwerth y cartref | Eich cyfran (70%) | Benthyciad ecwiti i'w ad-dalu (30%) |
|
---|---|---|---|
Cynnydd o 2% yng ngwerth |
£204,000 | £142,800 | £61,200 |
Gostyngiad o 2% yng ngwerth |
£196,000 | £137,200 | £58,800 |