Daeth yr ymgynghoriad i ben 16 Mehefin 2013.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o ymatebion ac ymateb Llywodraeth Cymru (Saesneg yn unig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 87 KB
Mynegai ymatebion (Saesneg yn unig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 64 KB
Ymatebion rhan 1 (Saesneg yn unig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 3 MB
Ymatebion rhan 2 (Saesneg yn unig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB
Ymatebion rhan 3 (Saesneg yn unig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 3 MB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Rydym am gael eich barn ar reoliadau arfaethedig fydd yn ei gwneud hi'n orfodol i osod systemau chwistrellu a systemau atal tân mewn tai newydd a thai wedi'u haddasu.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Ym mis Chwefror 2011 pasiodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru Fesur Diogelwch Tân Domestig (Cymru) 2011. Mae’r Mesur yn ein galluogi i gyflwyno rheoliadau fydd yn ei gwneud hi’n orfodol gosod systemau atal tân mewn tai newydd a thai wedi’u haddasu.
Beth yw’r broblem?
Mae nifer y bobl sy’n cael eu lladd neu eu hanafu mewn tanau yn eu cartrefi yn dal i fod yn rhy uchel ac rydym am leihau’r ffigur hwn.
Beth ydym ni’n ei gynnig?
Rydym yn cynnig gwneud newidiadau i Ran B o’r Rheoliadau Adeiladu a gosod y safonau technegol angenrheidiol drwy ddiwygio Rhifynnau 1 a 2 o Rhan B o’r Ddogfen Cymeradwyo Rheoliadau Adeiladu.
Mae’r ymgynghoriad hwn yn cynnwys cynigion ar gyfer y canlynol:
- rhoi’r rhan 1 o’r Mesur ar waith sef y rhan sy’n gwneud hi’n orfodol bod deiliad pob preswylfa sy’n dod o dan y rheoliad yn gosod system awtomatig ar gyfer atal tân sy’n gweithio’n effeithiol
- gwneud newidiadau i’r Rheoliadau Adeiladu trwy gyflwyno rheoliad newydd er mwyn bodloni’r hyn y mae’r Mesur yn gofyn amdano
- gwneud newidiadau i rifynnau 1 a 2 o Ran B o’r Dogfennau sydd wedi’u Cymeradwyo.