Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig
Rwy'n datgan heddiw fy mod yn cyhoeddi Cynllun Gweithredu 2019-20 ar gyfer Rheoli'r Rhwydwaith o Ardaloedd Morol Gwarchodedig (AFW). I ddangos fy ymrwymiad i gyfoethogi bioamrywiaeth forol Cymru, rwyf wedi cymeradwyo £138,500 o arian ychwanegol i dalu am bedwar cam rheoli. Mae nifer o awdurdodau'n rhannu'r cyfrifoldeb am reoli'n rhwydwaith o AFWau. Mae rhwydwaith o ardaloedd morol gwarchodedig, sydd wedi’u cynllunio’n dda ac yn cael eu rheoli’n dda, ochr yn ochr â mesurau rheoli morol ehangach fel cynlluniau morol, yn rhan annatod o sicrhau moroedd glân, diogel, cynhyrchiol a bioamrywiol. Mae hyn yn cyfrannu at gadernid a chynaliadwyedd hirdymor ein moroedd sy’n bwysig i’n cymunedau arfordirol, lles pobl Cymru ac i'r rhai sy’n ymweld â’n glannau.
Mae Cynllun Gweithredu 2019-2020 yn ffrwyth llawer iawn o waith gan y Grŵp Llywio ar Reoli AFWau, a hwn fydd y canllaw pwysicaf i helpu awdurdodau rheoli i wireddu'r weledigaeth tymor hir ar gyfer rheoli'r rhwydwaith o AFWau yng Nghymru Mae'n rhestru 25 o gamau rheoli, gan adlewyrchu hyd a lled y gweithgarwch sy'n cael ei wneud bob dydd ledled Cymru i reoli AFWau, yn ogystal â phrosiectau a chynlluniau penodol.
Wrth baratoi'r Cynllun Gweithredu, mae'r Grŵp Llywio wedi ystyried y gwaith sydd wedi'i wneud dros y 12 mis diwethaf ac wedi paratoi Adroddiad Blynyddol 2018-29 ar Reoli'r Rhwydwaith o Ardaloedd Morol Gwarchodedig. Mae hwnnw hefyd yn cael ei gyhoeddi heddiw. Mae'r Adroddiad Blynyddol yn esbonio'r gwaith mawr sydd wedi'i wneud o ran y camau rheoli ygnhyd â'r gwaith sydd wedi'i wneud i:
- gryfhau'r dystiolaeth;
- gwella'n dealltwriaeth o'r pwysau ar nodweddion AFW a'r amgylchedd morol ehangach; a
- cryfhau'r prosesau penderfynu, datblygu strategaethau a gweithredu.
Mae'r Adroddiad Blynyddol yn esbonio pwysigrwydd nifer o'r camau dan sylw, yn enwedig y rheini sy'n gysylltiedig â chynllunio, caniatáu ac asesu. Er nad ydyn nhw wastad yn weladwy, maen nhw'n amddiffyniad hanfodol i'r rhwydwaith ac yn ffrwyth llawer iawn o waith rheoli. Mae'n bwysig cofio bod y camau hyn yn cynnwys prosesau monitro ac asesu i wella'n dealltwriaeth o gyflwr safleoedd dros amser, gan gydnabod y gall gymryd amser hir i ganlyniad unrhyw weithgarwch ddod i'r amlwg ar ffurf newid i gyflwr y nodwedd.
Wrth baratoi'r Adroddiad Blynyddol, derbyniodd y Grŵp Llywio gyfraniadau oddi wrth Grwpiau Awdurdodau Perthnasol Safleoedd Morol Ewropeaidd am eu gwaith yn cynnal gweithgareddau rheoli yn lleol, a thrwy Grŵp Cynghori a Gweithredu Morol Cymru.
Mae'r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er gwybodaeth i'r aelodau. Os bydd yr aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddaf yn fwy na pharod i wneud hynny.