Mark Drakeford AC, y Prif Weinidog
Mae cynghorwyr arbennig yn rhoi dimensiwn gwleidyddol i'r cyngor a'r gefnogaeth sydd ar gael i Weinidogion ac yn atgyfnerthu hefyd ddidueddrwydd gwleidyddol y Gwasanaeth Sifil parhaol drwy fod yn ffordd arall o roi cyngor a chymorth gwleidyddol.
Fe'u penodir gan y Prif Weinidog i helpu Gweinidogion i ymateb i faterion pan fo gwaith y Llywodraeth a'r blaid sy'n llywodraethu yn gorgyffwrdd a phan na fyddai'n briodol i weision sifil parhaol gymryd rhan. Maent yn adnodd arall i'r Gweinidog ac yn rhoi cefnogaeth a ddaw o safbwynt sy'n fwy ymroddedig ac ymwybodol yn wleidyddol nag y byddai modd i'r Gwasanaeth Sifil parhaol ei gynnig i Weinidog.
Roedd 15 o Gynghorwyr Arbennig yn gweithio yn ystod y cyfan neu ran o'r flwyddyn ariannol 2018/19, fel y nodir isod.
Cynghorydd Arbennig |
Band Cyflog |
David Costa (gadawodd ar 8/4/18) |
PB2 |
Kate Edmunds (gadawodd ar 12/12/18) |
PB2 |
Matt Greenough (gadawodd ar 12/12/18) |
PB3 |
Rachel Maycock (gadawodd ar 12/12/18) |
PB2 |
Huw Price (gadawodd ar 12/12/18) |
PB2 |
Alex Rawlin (gadawodd ar 12/12/18) |
PB2 |
Madeleine Brindley |
PB2 |
Andrew Johnson |
PB2 |
Jane Runeckles * |
PB2/PB3 |
Gareth Williams ** |
PB3 |
Tom Woodward |
PB2 |
David Davies ** |
PB1 |
Daniel Butler ** |
PB1 |
Paul Griffiths ** † |
PB1 |
Clare Jenkins ** † |
PB3 |
* PB2 rhan-amser hyd at 12/12/18; PB3 amser llawn hyd o 13/12/18
** Rhan-amser
† Dros dro
Roedd cyfanswm cost y bil cyflogau ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2018 i 31 Mawrth 2019 yn £814,069. Mae hyn yn cynnwys cyflogau, cyfraniadau yswiriant gwladol a chyfraniadau pensiwn cyflogeion.
At hynny, pan ymddiswyddodd y cyn-Brif Weinidog cafodd contractau pob Cynghorydd Arbennig eu dirwyn i ben a gwnaed taliadau diswyddo o £259,988, yn unol â thelerau'r Contract Enghreifftiol ar gyfer Cynghorwyr Arbennig. Caiff taliadau diswyddo eu hadfer oddi wrth Gynghorwyr Arbennig a ail-benodir gan y Prif Weinidog newydd, yn unol â thelerau'r Contract Enghreifftiol ar gyfer Cynghorwyr Arbennig. Roedd cyfanswm y taliadau adferadwy yn £140,352.
Bandiau Cyflog Cynghorwyr Arbennig ar gyfer 2018-19
Roedd y bandiau cyflogau ac ystod cyflogau ar gyfer Cynghorwyr Arbennig yn 2018-19 fel a ganlyn:
|
|