Albert Heaney CBE Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol Cymru
Albert Heaney CBE yw Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol Cymru.
Mae ei gyfrifoldebau’n cynnwys:
- bod yn llais cryf i bawb sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol a darparu cyngor diduedd ar sail gwybodaeth i Weinidogion Cymru ar flaenoriaethau ar gyfer newid
- darparu arweinyddiaeth genedlaethol a hyrwyddo parch i bawb mewn rolau gofal cymdeithasol
- ysgogi integreiddio rhwng iechyd a gofal cymdeithasol
- galluogi pobl sy’n derbyn gofal cymdeithasol i gyflawni eu canlyniadau personol
- lleihau nifer y plant sydd angen eu rhoi mewn gofal
- cefnogi modelau darparu gwasanaeth arloesol â gwerth cymdeithasol
- datblygu modelau cyllid gofal cymdeithasol newydd
- hyrwyddo gwella a diwygio ym maes gofal cymdeithasol
- cefnogi lles a datblygiad y gweithlu gofal cymdeithasol
- cefnogi awdurdodau lleol a darparwyr a gwella ansawdd a chynaliadwyedd ym maes gofal cymdeithasol
- cyflawni bwriadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016
- cyd-gadeirio Bwrdd Partneriaeth y Gymraeg mewn Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
- ysgogi trefniadau a gweithdrefnau diogelu i sicrhau arferion o’r safon uchaf
Mae Albert wedi gweithio yn y Gwasanaethau Cyhoeddus ers yr 1980au. Mae ei rolau blaenorol wedi cynnwys:
- Llywydd Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (ADSS Cymru)
- Cyfarwyddwr Arweiniol ar gyfer Plant a Chyfarwyddwr Arweiniol ar gyfer Diogelu ac Atal, ADSS Cymru
- Cadeirydd Bwrdd Diogelu Plant
- Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol, yn arwain ar Wasanaethau Plant ac Oedolion
Mae’n aelod o’r Bwrdd Cyfiawnder Teuluol ac yn Gadeirydd Rhwydwaith Cyfiawnder Teuluol Cymru.