Adroddiad ar waith ymchwil ansoddol a gynhaliwyd er mwyn ystyried barn y cyhoedd ar fynediad at wasanaethau gofal sylfaenol a ddarperir mewn meddygfeydd yn ystod oriau arferol.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Cynhaliwyd cyfuniad o grwpiau ffocws a chyfweliadau manwl wyneb-yn-wyneb ym mis Ionawr/Chwefror 2019 mewn tri lleoliad: Caerdydd, Sir Gaerfyrddin a Gwynedd.
Canfyddiadau allweddol
- Y ffactorau mwyaf amlwg a oedd yn dylanwadu ar brofiadau cadarnhaol a negyddol y cyfranogwyr o fynediad oedd gallu cysylltu â'r feddygfa er mwyn gwneud apwyntiad a gallu gwneud apwyntiad ar adeg ac o fewn cyfnod o amser a oedd yn diwallu eu hanghenion.
- Ar gyfer cyfranogwyr Cymraeg eu hiaith yng Ngwynedd, roedd gallu cael gafael ar wasanaethau gofal sylfaenol yn eu practis meddyg teulu yn eu dewis iaith yn bwysig.
- Roedd cyfranogwyr yn gyffredinol yn gadarnhaol am syniad y model gofal sylfaenol a’r dull brysbennu. Roedd y manteision canfyddedig yn cynnwys mynediad cyflymach at y gofal priodol a gostyngiad yn y pwysau ar feddygon teulu.
- Roedd cyfranogwyr o'r farn bod manteision posibl o ddefnyddio technoleg ar gyfer bwcio apwyntiad neu ofal rheolaidd ar gyfer anghenion nad ydynt yn rhai brys. Mynegwyd rhai amheuon am dechnoleg yn disodli apwyntiadau wyneb-yn-wyneb.
Mae'r adroddiad yn cynnwys cyfres o argymhellion.
Adroddiadau
Gwaith ymchwil i fynediad at wasanaethau gofal sylfaenol a ddarperir gan feddygfeydd , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
PDF
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Gwaith ymchwil i fynediad at wasanaethau gofal sylfaenol a ddarperir gan feddygfeydd (crynodeb) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 672 KB
PDF
672 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Cyswllt
Eleri Jones
Rhif ffôn: 0300 025 0536
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.