Daeth yr ymgynghoriad i ben 30 Ebrill 2013.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o'r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 384 KB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Mae'r ymgynghoriad hwn yn holi eich barn am gyfres o opsiynau sy'n gysylltiedig â'r cyfnod amser rhwng arolygu ysgolion a darparwyr.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Mae hefyd yn pennu’r opsiynau i newid y cyfnodau hysbysu y mae ysgolion a darparwyr yn eu derbyn cyn i’r arolwg ddigwydd. Mae elfen derfynol yr ymgynghoriad yn gysylltiedig â’r cyfnod amser sydd gan ysgolion a darparwyr yn dilyn arolwg i baratoi ar gyfer eu cynllun gweithredu wedi arolwg.
Yn dilyn yr ymgynghoriad ar y cyd ar newidiadau arfaethedig i gylch arolygu Estyn a’r amserlen o ran llunio cynlluniau gweithredu yn dilyn arolygiad rydym wedi diwygio’r rheoliadau fel a ganlyn:
- cael gwared â’r cysylltiad rhwng arolygiadau a gynhaliwyd yn y gorffennol ac arolygiadau i ddod gan ei gwneud yn ofynnol i ysgolion a lleoliadau addysg gael eu harolygu o leiaf unwaith bob 6 mlynedd. Bydd y newid hwn yn golygu na fydd hi mor hawdd i ysgolion a lleoliadau addysg allu rhagweld pryd y cynhelir eu harolygiad nesaf
- cael gwared â’r gofyniad bod ysgolion yn gorfod rhoi tair wythnos o rybudd cyn cynnal cyfarfod â rhieni cyn arolygiad. Bydd hyn yn rhoi hyblygrwydd i Estyn roi llai o rybudd i ysgol am arolygiad os yw’n dymuno
- lleihau’r cyfnod a ganiateir ar gyfer llunio cynllun gweithredu yn dilyn arolygiad i 20 diwrnod gwaith er mwyn sicrhau bod cynllun yn cael ei lunio yn gyflym fel mater brys.
Mae Rheoliadau Addysg (Diwygiadau sy’n ymwneud ag Arolygu Addysg a Hyfforddiant) (Cymru) wedi cael eu gwneud. Dônt i rym ar 1 Medi 2014 ac maent wedi’u cyhoeddi ar y wefan ddeddfwriaeth (dolen allanol).