Lesley Griffiths AC, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig
Mae cartrefi da yn helpu i greu cymunedau cydlynus sy'n gweithredu'n dda, y mae pob un ohonom yn gallu cymryd rhan ynddyn nhw. Mae ein Rhaglen Cartrefi Clyd yn parhau i wneud cyfraniad sylweddol at y gwaith o wella ansawdd ein cartrefi, gan roi cymorth i bobl sy'n cael trafferth talu am yr ynni mae eu cartrefi'n ei ddefnyddio, a helpu i wireddu ein huchelgais i leihau allyriadau carbon niweidiol i'n hamgylchedd naturiol ar yr un pryd.
Fel rhan o Raglen Cartrefi Clyd, mae Cynlluniau Nyth ac Arbed wedi bod yn gwella effeithlonrwydd cartrefi o ran ynni ers 2009, gan eu gwneud yn gynhesach ac yn fwy cyfforddus ar gyfer y bobl sy'n byw ynddynt. Mae'r cynlluniau wedi parhau i gefnogi rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, drwy wella eu gallu i wrthsefyll iechyd gwael y gellir ei osgoi ac atal marwolaethau cynnar. Mae creu cartref cyfforddus hefyd yn helpu ein plant i ddechrau eu bywyd yn y ffordd orau posibl ac i wireddu eu llawn botensial.
Yr wythnos hon, mae'r Adroddiadau Blynyddol sy'n amlinellu'r gwaith a wnaed gan yr asiantwyr a benodwyd gennyf y llynedd i reoli cynlluniau Nyth ac Arbed, yn ystod y cyfnod diwethaf hwn o'r Rhaglen Cartrefi Clyd, wedi cael eu cyhoeddi. Cyflwynir yr Adroddiadau Blynyddol yng nghyd-destun yr amcangyfrifon newydd o dlodi tanwydd yng Nghymru, sy'n awgrymu bod 155,000 o gartrefi yn parhau i brofi tlodi tanwydd – sef 12% o gartrefi. Mae lefel tlodi tanwydd yng Nghymru wedi gostwng mwy na hanner dros y deng mlynedd diwethaf. Mae'r cynlluniau hyn wedi gwneud cyfraniad sylweddol at leihau tlodi tanwydd, er bod angen gwneud mwy er mwyn lleihau lefelau tlodi tanwydd ymhellach byth.
O ran Cynllun Nyth 2018–19, mae'r Adroddiad Blynyddol yn dangos bod £15.9 miliwn wedi rhoi help a chymorth i 15,606 o bobl drwy eu cyfeirio nhw at nifer o wasanaethau trydydd parti, fel gwirio hawliau i fudd-daliadau er mwyn cynyddu incwm cymaint ag y bo modd a rhoi cyngor ar reoli arian. Hefyd mae Nyth wedi helpu pobl i hawlio eu Gostyngiad Cartrefi Clyd gan eu cyflenwr ynni, ac mae dros 3,800 o gartrefi wedi elwa ar fesurau i wella effeithlonrwydd eu cartrefi o ran ynni yn ystod y cyfnod adrodd hwn.
Mae Adroddiad Blynyddol llawn Nyth ar gael yn https://nest.gov.wales/workspace/uploads/files/nest-annual-report-2019-welsh-5d3ac3c65f561.pdf.
Ynglŷn â'r rhan o Raglen Cartrefi Clyd sy'n seiliedig ar ardaloedd, mae'r Adroddiad Blynyddol cyntaf hwn a gyhoeddwyd gan Arbed-Am-Byth yn dangos y rhoddwyd dros £1.2 miliwn o gyllid gan Lywodraeth Cymru, gan helpu pobl mewn 145 o gartrefi drwy wella effeithlonrwydd eu cartrefi o ran ynni. Rwy'n disgwyl y bydd y cynllun hwn yn darparu llawer mwy o welliannau i gartrefi yng Nghymru yn y blynyddoedd nesaf. Ar ôl dysgu gwersi o gynlluniau yn y gorffennol, a'u rhoi ar waith, mae'r cynllun hwn yn canolbwyntio ar y cwsmer, gan ddangos gwelliannau i gyngor i ddefnyddwyr ac amddiffyn defnyddwyr, safonau cynnyrch a sicrwydd ansawdd, ynghyd â phrosesau gwell ar gyfer monitro a gwerthuso.
Mae Adroddiad Blynyddol llawn Arbed ar gael yn http://www.arbedambyth.wales/annual-reports/Arbed_Adroddiad_Blynyddol_2018-19.pdf.
Ynghyd â'r mesurau sydd wedi cael eu rhoi ar waith mewn cartrefi ers i Raglen Cartrefi Clyd ddechrau naw mlynedd yn ôl, mae ein buddsoddiad o dros £265 miliwn wedi rhoi cymorth uniongyrchol i bobl mewn dros 54,800 o gartrefi a oedd yn cael trafferth cadw eu cartref yn gynnes ac yn ddiogel am gost y gallant ei fforddio.
Mae'r cynlluniau a gyflwynir o dan ein Rhaglen Cartrefi Clyd yn gwneud cyfraniad pwysig at leihau allyriadau carbon. Mae sicrhau allyriadau di-garbon o adeiladau yn un o'r heriau mwyaf arwyddocaol rydym yn eu hwynebu dros y tri degawd nesaf. Er bod y cynlluniau hyn yn canolbwyntio ar ein hymdrechion i fynd i'r afael â thlodi tanwydd, maent yn cael effaith gadarnhaol uniongyrchol ar ein hymdrechion i sicrhau allyriadau di-garbon o gartrefi yng Nghymru.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.