Daeth yr ymgynghoriad i ben 15 Mawrth 2013.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o'r ymatebion (Saesneg yn unig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 238 KB
Ymatebion llawn (Saesneg yn unig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 10 MB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Mae'r ymgynghoriad hwn yn amlinellu'n cynigion i gyflwyno proses ar gyfer cymeradwyo newidiadau i ganiatâd cynllunio cyfredol.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Ystyr diwygiadau ansylweddol yw mân newidiadau i ganiatâd cynllunio cyfredol heb unrhyw effaith ar gyd-destun cyffredinol y cynllun datblygu na’i amgylchiadau.
Nid oes proses ffurfiol ar gyfer cymeradwyo’r newidiadau hyn. Felly mae awdurdodau cynllunio lleol yn delio â nhw mewn ffyrdd gwahanol ledled y wlad.
Mae’r ymgynghoriad yn amlinellu’n cynigion i gyflwyno proses ymgeisio i wneud newidiadau ansylweddol i ganiatadau cynllunio cyfredol. Bydd y cynigion:
- Yn cynnig sylfaen gyfreithiol ar gyfer gwneud y newidiadau hyn gan roi mwy o sicrwydd i awdurdodau cynllunio lleol ac ymgeiswyr ynghylch a allant eu gwneud;
- Yn cynnig system gynllunio fwy ymatebol sy’n fwy hyblyg i ymgeiswyr wneud newidiadau wrth i’r broses gynllunio a datblygu fynd yn ei blaen;
- Yn cynnig mwy o sicrwydd a thryloywder am y broses a’r weithdrefn ar gyfer gwneud newidiadau ansylweddol i ganiatadau;
- Yn rhoi ffordd fwy cyson i awdurdodau cynllunio lleol benderfynu ar y diwygiadau hyn.
Mae canllaw drafft ar gael yn Atodiad 1. Mae hyn yn amlinellu nodweddion allweddol y weithdrefn ac yn rhoi cyfarwyddyd ymarferol ar ei defnyddio.
Mae Asesiad Effaith Rheoleiddio rhannol drafft ar gael yn Atodiad 2. Mae’n asesu effeithiau tebygol y cynigion.