Daeth yr ymgynghoriad i ben 5 Mawrth 2013.
Crynodeb o’r canlyniad
Ceir gwybodaeth am bolisi’r Gymraeg Cyfoeth Naturiol Cymru (dolen allanol) ar ei wefan.
Ymgynghoriad gwreiddiol
Mae'r Cynllun Iaith Gymraeg drafft hwn yn nodi sut y bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymdrin â'r iaith Gymraeg a'r iaith Saesneg mewn modd cyfartal.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Polisi interim fydd y cynllun hwn hyd nes y cyflwynir Safonau newydd dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Bydd y cynllun yn dod i rym pan gaiff Cyfoeth Naturiol Cymru ei greu ym mis Ebrill 2013 hyd nes y cyflwynir y Safonau newydd. Yna bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn paratoi cynllun newydd ac yn ei roi ar waith er mwyn cydymffurfio â Mesur 2011.
Mae’r cynllun drafft hwn yn ymdrin â’r canlynol:
- darparu gwasanaethau
- llunio polisïau
- gweithredu
- hybu’r Gymraeg
- monitro a chadw cofnodion.