Rob Orford Y Prif Ymgynghorydd Gwyddonol (Iechyd)
Dr Rob Orford yw'r Prif Gynghorydd Gwyddonol dros Iechyd.
Ef yw'r arweinydd proffesiynol ar gyfer gwyddonwyr gofal iechyd yn GIG Cymru. Mae Dr Orford yn darparu cyngor technegol a gwyddonol arbenigol ar wyddor iechyd a meysydd diogelu iechyd. Mae'n aelod o'r Bwrdd Diagnosteg Cenedlaethol, UK Genome a Bwrdd Cynghori Gwyddorau Bywyd y DU.
Yn ystod y pandemig, arweiniodd ymateb gwyddonol a thechnegol Llywodraeth Cymru. Sefydlodd a chyd-gadeiriodd y Grŵp Cynghori Technegol ac roedd yn aelod gweithredol o SAGE. Dr Orford yw Uwch-swyddog Cyfrifol Rhaglen Dŵr Gwastraff Cymru. Dr Orford hefyd sy’n arwain yr Is-adran Cyngor ar Wyddoniaeth a Thystiolaeth yn Llywodraeth Cymru.
Cyn hynny, bu'n gweithio i Iechyd Cyhoeddus Lloegr, gan arwain y gwaith datblygu technegol ar gyfer system asesiadau risg cyflym o fygythiadau iechyd cemegol trawsffiniol. Gwyddoniaeth labordy yw cefndir Dr Orford a bu’n gymrawd ymchwil ôl-ddoethurol. Ei feysydd yw bioleg ddatblygiadol ac oncoleg foleciwlaidd.