Sue Tranka Prif Swyddog Nyrsio
Sue Tranka yw'r Prif Swyddog Nyrsio.
Sue Tranka yw Prif Swyddog Nyrsio Cymru a Chyfarwyddwr Nyrsio GIG Cymru ers 2021. Cyn hynny, bu'n Ddirprwy Brif Swyddog Nyrsio ar gyfer Diogelwch Cleifion ac Arloesi yn NHS England and Improvement.
Mae gan Sue 32 mlynedd o brofiad amrywiol ym maes nyrsio, ac mae wedi treulio'r 25 mlynedd diwethaf yn gweithio yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Cafodd Sue ei hyfforddi'n fydwraig, yn nyrs gyffredinol gofrestredig, yn nyrs iechyd meddwl ac yn nyrs gymunedol. Mae gan Sue ddiddordeb mawr mewn gwella ansawdd, ffactorau dynol a systemau diogelwch.
Ym mis Ebrill 2022, penodwyd Sue'n Athro Gwadd er Anrhydedd ym Mhrifysgol Caerdydd.
Yn 2020 ac eto yn 2024, cafodd Sue ei rhestru ymhlith y 50 o bobl fwyaf dylanwadol o gefndir du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol ym maes iechyd yng Nghyfnodolyn y Gwasanaeth Iechyd. Mae Sue yn Gymrawd Sefydliad Nyrsys y Frenhines.