Daeth yr ymgynghoriad i ben 26 Tachwedd 2012.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o'r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 122 KB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Mae Llywodraeth Cymru yn ceisio sylwadau am gynigion i newid sut mae dyddiadau tymor ysgol yn cael eu pennu.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i helpu teuluoedd sy’n cael problemau oherwydd bod dyddiadau tymor ysgol ac felly gwyliau ysgol yn amrywio ledled Cymru.
Ein bwriad yw cysoni dyddiadau tymor ysgol ar gyfer yr holl ysgolion a gynhelir yng Nghymru fel nad ydynt fel arfer yn amrywio a’u bod yn gwneud hynny dim ond pan fo cyfiawnhad llawn.
Rydym o’r farn y gellir cyflawni hyn trwy sicrhau bod y sefydliadau sy’n gyfrifol ar hyn o bryd am bennu dyddiadau tymhorau ar gyfer yr holl ysgolion a gynhelir yng Nghymru yn cydweithio i gytuno ar ddyddiadau tymor ysgol ar gyfer Cymru gyfan. Mewn achosion lle nad yw hynny’n digwydd neu lle mae rheswm da dros newid dyddiadau tymor ysgol y cytunwyd arnynt mae’r Llywodraeth yn bwriadu cyflwyno deddfwriaeth i ganiatáu i Weinidogion Cymru ymyrryd i sicrhau bod dyddiadau priodol yn cael pennu.