Daeth yr ymgynghoriad i ben 18 Hydref 2012.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o'r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 93 KB
Rhestr o ymgynghoreion ac ymatebion (Saesneg yn unig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 648 KB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Mae addysgu a dysgu effeithiol wrth wraidd diwygiadau ym maes addysg yng Nghymru.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Yn dilyn canlyniad ymgynghoriad sydd wedi’i gynnal ar y cynigion i ddiwygio’r gofynion i gofrestru’r gweithlu addysg yng Nghymru mae’r Gweinidog yn nodi ei fwriadau fel a ganlyn:
- bydd angen i athrawon mewn ysgolion a gynhelir barhau i gofrestru
- bydd angen i eraill sy’n rhan o’r gweithlu addysg gofrestru hefyd
- bydd gan y corff cofrestru swyddogaethau disgyblu a bydd y corff yn cyflawni’r swyddogaethau hynny yn annibynnol ar y Llywodraeth
- bydd y corff cofrestru yn cael ei ffurfio drwy adeiladu ar brofiad Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru
- yn ychwanegol at y swyddogaethau craidd sydd ynghlwm wrth gofrestru a disgyblu ymhen amser bydd gan y corff cofrestru amrywiaeth o swyddogaethau cynghori gan gynnwys achredu ac ardystio hyfforddiant
- yn ogystal bydd gan y corff cofrestru rôl i hyrwyddo cyfleoedd dysgu a rhannu data yn effeithiol o fewn y gweithlu.
Mae’r ddogfen ymgynghori yn rhoi mwy o fanylder ynghylch swyddogaethau a gweithrediadau’r corff cofrestru ac yn gofyn am safbwyntiau pobl ar fanylion y gweithrediadau y rolau a’r swyddogaethau. Gwnaed hynny fel rhan o’r gwaith paratoi ar gyfer rheoliadau’r Bil Addysg (Cymru) a fydd yn cael ei gyflwyno maes o law.
Mae’r cynigion a geir yn yr ymgynghoriad hwn yn fodd o ddatblygu system gofrestru gadarn a fydd yn gwella’r gwaith o gynllunio’r gweithlu ei hyfforddi a’i ddatblygu. Bydd hyn hefyd yn rhoi mwy o gydlyniant a chydnabyddiaeth ymhlith yr holl weithlu addysg tuag at addysg pob dysgwr yng Nghymru.