Heddiw, cafodd cynlluniau i adeiladu ar lwyddiant sector bwyd a diod Cymru ac i hyrwyddo twf y sector yn ystod y ddegawd nesaf eu datgelu ar y cyd gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, and Andy Richardson, Cadeirydd Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru, yn Sioe Frenhinol Cymru.
Nod y cynigion, a luniwyd ar y cyd ac a lansiwyd at ddibenion ymgynghori, yw creu sector cryf a ffyniannus sy'n cael ei gydnabod ledled y byd am ei ragoriaeth, ac sydd ag un o'r cadwyni cyflenwi mwyaf cyfrifol yn y byd ar lefel amgylcheddol a chymdeithasol. Aed ati i baratoi'r ymgynghoriad ar y cyd â'r diwydiant.
Mae'r cynllun newydd ar gyfer 2020-26 yn adeiladu ar y cynllun presennol 'Tuag at Dwf Cynaliadwy', sydd wedi gweld y sector bron yn cyrraedd ei darged uchelgeisiol o drosiant o £7 biliwn yn gynnar.
Mae'r ymgynghoriad yn nodi sut y bydd Llywodraeth Cymru a Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru yn cydweithio â'r sector er mwyn cyflawni tri nod allweddol:
- datblygu busnes ‒ Ehangu cwmpas a gwerth y sector, a gwella cynhyrchiant busnesau
- sicrhau budd i'n pobl a'n cymdeithas ‒ Bod ein cymorth a'n buddsoddiad yn helpu busnesau i sicrhau manteision ehangach drwy waith teg, drwy feithrin sgiliau a thrwy ddefnyddio adnoddau mewn ffordd gynaliadwy
- hyrwyddo Cymru fel gwlad bwyd – tynnu sylw at ein sector, gan adeiladu ar lwyddiant Blas Cymru er mwyn creu masnach a chyfleoedd newydd yn y farchnad, gan ddatblygu a chyflawni'n safonau uchel a dathlu llwyddiant
Yr hyn sy'n ganolog i'r cynigion yw'r syniad bod llwyddiant yn y sector bwyd a diod yn arwain at lwyddiant ehangach ac at fanteision i'n pobl, i'n cymunedau, ac i'n hamgylchedd ehangach.
Mae'r cynigion yn adeiladu ar y ffaith bod bwyd wedi cael ei enwi'n rhan o economi sylfaenol Cymru ac yn rhan o ffyniant ein cenedl. Mae'r ymgynghoriad yn cynnig targedau a dangosyddion a fydd yn hyrwyddo ymdrech ac yn rhoi amcan o hynt y gwaith a wneir yn y maes hwn.
Mae sector bwyd a diod o Cymru wedi tyfu'n sylweddol ers i 'Tuag at Dwf Cynaliadwy' gael ei gyhoeddi yn 2013, gan gynnwys:
- trosiant uwch o £6.8 biliwn, o gymharu â £5.7 biliwn yn 2013
- 16 o gynhyrchion ag enwau bwyd gwarchodedig, o gymharu â 5 yn 2013, a
- Gwerth £539 miliwn o allforion, o gymharu â £399m yn 2013
Bydd yr ymgynghoriad newydd yn dod i ben ar 15 Hydref 2019.
Dywedodd y Gweinidog:
"Mae gan ein diwydiant bwyd a diod hanes o lwyddiant yng Nghymru. Mae'n tyfu ac mae gennym broffil mwy amlwg. Mae yna ewyllys ac egni amlwg i adeiladu ar lwyddiant ein Cynllun Gweithredu presennol ac i roi'r sector yn y lle gorau posibl ar gyfer y dyfodol.
"Yr hyn sydd wrth wraidd ein llwyddiant yw partneriaeth go iawn rhwng Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru, busnesau, arbenigwyr technegol, a'r llywodraeth. Mae'r Bwrdd wedi cynnig arweiniad a chyngor gwerthfawr, a dwi'n edrych 'mlaen at barhau i gydweithio'n agos ag e' a'r diwydiant yn ystod cam nesaf y gwaith.
"Mae ansicrwydd a heriau'n ein hwynebu yn sgil Brexit, ond mae'n sector bwyd a diod yn dechrau o le da. Bydd Brexit yn amharu'n sylweddol arnon ni ‒ mae'n hollbwysig ein bod yn goresgyn yr heriau a fydd yn ein hwynebu, er enghraifft, sut i wella cynhyrchiant, sut i ddenu gweithlu ac i fuddsoddi ynddo, a sut i sicrhau bod ein rhwydweithiau a'n systemau’n fwy cadarn mewn byd ansicr.
"Gall Cymru ddatblygu'n genedl o fri ym maes gweithgynhyrchu bwyd a diod mewn ffyrdd a fydd yn fuddiol i'n pobl ac i'n gymdeithas gyfan. Mae'r cynllun gweithredu dwi'n ei lansio heddi' yn nodi sut byddwn ni'n cyflawni hynny. Mae wedi cael ei baratoi ar y cyd â'r bwrdd, gan gydweithio'n glos â'r diwydiant. Hoffwn i annog pawb sydd, fel fi, am weld sector cryf a bywiog, i ymateb i'r ymgynghoriad ac i rannu eu barn â ni."
Dywedodd Andy Richardson, Cadeirydd Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru:
"Mae'r twf a welwyd yn ddiweddar yn sector Bwyd a Diod Cymru wedi bod yn gwbl syfrdanol, ond nid drwy hap a damwain y gwelwyd yn llwyddiant hwnnw. Mae wedi bod yn ffrwyth cydweithio gwirioneddol effeithiol rhwng y diwydiant a Llywodraeth Cymru, yn ffrwyth syniadau da a phenderfyniad ar ran pawb i wneud gwahaniaeth go iawn.
"Fy uchelgais i yw gweld sector Bwyd a Diod Cymru yn parhau i dyfu ond gan sicrhau ar yr un pryd ein bod yn gofalu am ein cymdeithas a'r amgylchedd. Hoffwn i annog pawb yn y diwydiant i gynnig adborth cadarnhaol am y cynllun drafft er mwyn sicrhau bod ein cynllun terfynol yn un uchelgeisiol a hynod effeithiol, a bod yr holl randdeiliaid yn credu ynddo ac yn ymrwymo i'w wireddu."