O dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, mae'n ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi datganiad o ganlyniadau llesiant.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Mae hwn wedi ' i fwriadu ar gyfer pobl y mae arnynt angen gofal a chymorth ac ar gyfer gofalwyr y mae arnynt angen cymorth, ac i bennu mesurau i ddangos a yw'r canlyniadau hyn yn cael eu cyflawni.
Mae Fframwaith Canlyniadau Cenedlaethol y Gwasanaeth Cymdeithasol yn cael ei ddatblygu i ddiwallu'r gofynion hyn. Mae'r adolygiad yn adrodd ar ganfyddiadau prosiect i archwilio a allai Cronfa Ddata Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw helpu i ddarparu dangosyddion canlyniadau cenedlaethol sy'n mesuro llesiant pobl y mae arnynt angen gofal a chymorth a gofalwyr y mae arnynt angen cymorth, i'w cynnwys yn y fframwaith canlyniadau cenedlaethol.
Adroddiadau
Adolygu gallu’r ‘Gronfa Ddata Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw’ (SAIL) i ddarparu data ar gyfer y ‘Fframwaith canlyniadau cenedlaethol , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB
Adolygu gallu’r ‘Gronfa Ddata Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw’ (SAIL) i ddarparu data ar gyfer y ‘Fframwaith canlyniadau cenedlaethol: crynodeb , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 435 KB
Cyswllt
Sarah Lowe
Rhif ffôn: 0300 062 5229
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.