Daeth yr ymgynghoriad i ben 2 Awst 2012.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o'r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 163 KB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Rydym eisiau eich adborth ar gynigion i ddisodli'r Meini Prawf ar gyfer Achredu Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru 2006, fel y'i diwygiwyd.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Byddai hyn yn cyflwyno gofynion diwygiedig ar gyfer darparu cyrsiau hyfforddiant cychwynnol athrawon yng Nghymru. Bydden nhw’n cynnwys gofynion statudol ar gyfer asesu sgiliau llythrennedd a rhifedd personol yr hyfforddeion. Bydden nhw hefyd yn sicrhau bod addysgu llythrennedd a rhifedd yn rhan ganolog o gyrsiau hyfforddiant cychwynnol athrawon. Mae’r cynigion yn cynnwys nifer o newidiadau ategol a diwygiadau diweddaru.
Mae’r ymgynghoriad hefyd yn cynnig newidiadau tebyg i’r Cynllun Hyfforddi Athrawon ar sail Cyflogaeth. Ein nod yw i sicrhau mai’r un yw’r sail sydd i’r dull o fynd i’r afael â llythrennedd a rhifedd mewn hyfforddiant cychwynnol athrawon p’un a gaiff ei ddilyn drwy gyrsiau prifysgol neu drwy hyfforddiant mewn ysgolion.