Kirsty Williams AM, Minister for Education
Rwy'n croesawu adroddiad a gwaith y corff newydd, yn enwedig o ystyried y terfynau amser byr iawn. Mae'r corff wedi llunio adroddiad, mewn llai na phedwar mis, sy'n dadansoddi tystiolaeth, yn cynnig her adeiladol ac yn edrych y tu hwnt i'r materion uniongyrchol. Rwy'n ddiolchgar i'r Cadeirydd a'r Aelodau am eu gwaith.
Prif argymhelliad IWPRB yw y dylid cynyddu'r holl ystodau cyflog a lwfansau statudol 2.4% ac y dylid cynyddu isafswm statudol prif ystod cyflog athrawon 5%.
Fodd bynnag, rwy'n parhau i fod yn ymrwymedig i egwyddor 'dim niwed' wrth i ni ddefnyddio ein cyfrifoldebau datganoledig am y tro cyntaf.
Rwy felly yn ymgynghori ar gynyddu cyflog athrawon yng Nghymru 2.75%. . Rwy'n gwneud hynny wrth gydnabod bod hyn yn mynd y tu hwnt i argymhelliad IWPRB.
Rwy'n benderfynol y byddwn yn parhau, ac yn cynyddu ein hymdrechion, i hyrwyddo addysgu fel dewis broffesiwn i raddedigion a'r sawl sy'n newid gyrfa. Felly, rwy'n bwriadu derbyn argymhelliad IWPRB i gynyddu'r isafswm cyflog ar raddfa gyflog athrawon 5%. Credaf y bydd hyn yn cael effaith gadarnhaol ar sicrhau y byddwn yn parhau i ddenu athrawon o safon uchel i'r proffesiwn yng Nghymru, ochr yn ochr â'n diwygiadau i ddysgu proffesiynol, y cwricwlwm ac addysg athrawon.
Rwyf hefyd yn ymwybodol iawn bod y pwysau ar gyllid i wasanaethau cyhoeddus sy'n deillio o'r degawd diwethaf o gyfyngu ar wariant cyhoeddus yn golygu y bydd ysgolion ac awdurdodau lleol yn gofyn sut y gellir fforddio'r cynnydd, yn ogystal â chydnabod gwerth a phwysigrwydd ein gweithlu addysgu, ac mae'n briodol iddynt ofyn hynny. Nid yw Llywodraeth y DU wedi darparu unrhyw ddyraniadau amcanol i Lywodraeth Cymru am ei chyllid. Fel rhan o'r ymgynghoriad, rwy'n ymrwymedig i drafod goblygiadau'r ffordd ymlaen hon a gynigir ag arweinwyr llywodraeth leol.
Yn ogystal â'r wyth argymhelliad, mae IWPRB yn cyflwyno cyfres o 'arsylwadau pellach' i'w datblygu gan Lywodraeth Cymru a'i phartneriaid allweddol. Caiff y rhain eu trafod yn llawn ag IWPRB dros yr wythnosau i ddod, fel rhan o'r broses adborth ar gyfer Blwyddyn 1.
Mae IWPRB hefyd yn gwneud nifer o argymhellion sy'n ymwneud â'r ffordd y mae cyflogwyr yn dehongli ac yn gweithredu cyflog athrawon yng Nghymru.
Er eu bod yn rhoi sail ddefnyddiol i ni ar gyfer gwaith pellach, credaf fod angen ymchwilio'n fanylach i rai o'r argymhellion hyn ac felly nid wyf mewn sefyllfa lle gallaf dderbyn y rhain ar hyn o bryd. Byddaf yn cynnwys y materion hyn yng nghylchoedd gwaith IWPRB yn y dyfodol. Ceir fy ymateb manwl i bob un o'r argymhellion yn yr Adroddiad yn Atodiad A.
Byddaf yn gwahodd rhanddeiliaid allweddol yn awr i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig ar adroddiad IWPRB, fy ymateb i argymhellion allweddol IWPRB i Weinidogion Cymru, a'r cynnydd uwch arfaethedig yng nghyflog athrawon.
Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau. Os bydd yr aelodau am i fi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ar hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn fodlon gwneud hynny.