Daeth yr ymgynghoriad i ben 19 Mehefin 2012.
Manylion am y canlyniad
Adroddiad cryno , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 158 KB
Crynodeb o'r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 103 KB
Ymatebion 1-22 (Saesneg yn unig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 3 MB
Ymatebion 23-43 (Saesneg yn unig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 7 MB
Ymatebion 44-57 (Saesneg yn unig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 6 MB
Ymatebion 58-68 (Saesneg yn unig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 6 MB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Mae'r ymgynghoriad hwn yn holi barn am agweddau penodol ar awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân bosibl ar gyfer Cymru.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Ar hyn o bryd mae cyfreithiau sy’n cael eu gwneud yng Nghymru ar gyfer Cymru yn parhau i fod yn rhan o gyfraith Cymru a Lloegr. Mae hynny oherwydd bod Cymru a Lloegr yn rhannu’r un awdurdodaeth gyfreithiol. Nid yw hynny’n wir am yr Alban a Gogledd Iwerddon sydd â’u hawdurdodaethau cyfreithiol ar wahân.
Cafwyd llawer o drafod ynghylch a ddylai Cymru hefyd fod yn awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân neu beidio. Yn 2011 traddododd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones araith i Gynhadledd Cymru’r Gyfraith lle cyhoeddodd bod angen cynnal trafodaeth gyhoeddus ar fater Awdurdodaeth Gyfreithiol ar Wahân ar gyfer Cymru.
Diben yr ymgynghoriad yw casglu safbwyntiau ynghylch yr agweddau penodol ar awdurdodaeth Gymreig bosibl a’r materion sy’n codi fel rhan o’r cwestiynau ehangach canlynol:
- beth yw ystyr y term “awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân”;
- a oes yna nodweddion sy’n hanfodol er mwyn cael awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân ac os felly beth ydynt;
- beth yw canlyniadau posibl cael awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân ar gyfer Cymru;
- pa fanteision ac anfanteision a all godi o gael awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân ar gyfer Cymru.