Mae'r arfer o werthu cŵn a chathod bach trwy drydydd parti ar fin cael ei wahardd yng Nghymru ar ôl i ymgynghoriad cyhoeddus ddangos cefnogaeth aruthrol i'r syniad, meddai Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig heddiw (18 Gorff).
Y gobaith yw y bydd y gwaharddiad yn gwella amodau lles yr anifeiliaid ac yn helpu'r cyhoedd i ddewis yn ddoeth wrth brynu anifail anwes.
Bu'r pwnc yn destun ymgynghoriad cyhoeddus ym mis Chwefror eleni pan ofynnwyd am farn y cyhoedd am faterion eang ynghylch bridio cathod a chŵn. Cafwyd ymatebion gan bron 500 o bobl.
Dywedodd y mwyafrif llethol y caren nhw'n weld gwaharddiad ac yr hoffen nhw weld mwy yn cael ei wneud i wella lles cathod a chŵn ar bob safle bridio yng Nghymru.
Roedd llawer yn poeni hefyd am werthu anifeiliaid ar-lein, prynu ar fympwy, atebolrwydd y bridiwr a mewnforio cŵn bach yn anghyfreithlon.
Caiff crynodeb o'r ymatebion eu cyhoeddi heddiw.
Bydd cynlluniau ar gyfer gwaharddiad yn rhan o ymgynghoriad cyhoeddus llawn fydd yn edrych ar y manylion a'i effeithiau, yn ogystal ag ar newid rheoliadau bridio i wella amodau lles ar safleoedd bridio.
Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths wedi cyhoeddi bod ganddi gynlluniau hefyd i edrych ar y rheoliadau bridio presennol i wella amodau lles ar safleoedd bridio.
Dywedodd:
"Rydyn ni wedi ymrwymo i wella amodau lles anifeiliaid a sicrhau eu bod yn cael eu hamddiffyn rhag niwed yn ystod y broses fridio.
"Mae cŵn a chathod bach sy'n cael eu gwerthu trwy drydydd parti mewn mwy o berygl o ddal clefyd, o ddioddef oherwydd diffyg cyfle i gymdeithasoli ac i ymgynefino â phobl ac anifeiliaid eraill, ac o ddioddef y gofid o ddod ar draws amgylchiadau newydd ac anghyfarwydd sawl gwaith ar eu taith.
"Dyna pam rydyn ni'n dod â'r gwaharddiad yn ei flaen ac rydyn ni'n falch bod y cyhoedd yn cytuno â ni. Rydyn ni wedi gwrando ar yr hyn sydd gan bobl i'w ddweud a byddwn yn gwahardd gwerthu cathod a chŵn bach trwy drydydd parti.
"Rydyn ni'n gobeithio y bydd gwaharddiad yn helpu pobl i ddewis yn ddoeth wrth brynu anifail anwes ac yn sicrhau bod bridwyr yn ysgwyddo'u cyfrifoldeb am yr anifeiliaid maen nhw'n eu gwerthu."