Cylch gorchwyl
Yn egluro cyfrifoldebau’r grŵp a sut y mae’n gweithredu.
Cynnwys
Cefndir
Cafodd Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru ei lansio fis Gorffennaf 2014. Mae'n pennu ein cynllun cyffredinol dros deg mlynedd i wneud y canlynol:
- gwella safonau iechyd a lles anifeiliaid cadw
- diogelu iechyd y cyhoedd
- cyfrannu at yr economi a’r amgylchedd
Mae'r fframwaith yn nodi pum canlyniad strategol;
- anifeiliaid iach a chynhyrchiol
- anifeiliaid sydd ag ansawdd bywyd da
- pobl sydd â ffydd a hyder yn y ffordd rydym yn cynhyrchu bwyd ac yn diogelu iechyd y cyhoedd
- economi wledig ffyniannus
- amgylchedd o ansawdd uchel
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn canolbwyntio ar wella llesiant economaidd, amgylcheddol a diwylliannol. Mae’r fframwaith a’i gynllun gweithredu yn dangos ymrwymiad i bob un o’r saith nod:
- Cymru fwy llewyrchus
- Cymru fwy cydnerth
- Cymru iachach
- Cymru fwy cyfartal
- Cymru o Gymunedau Cydlynus
- Cymru o ddiwylliant bywiog a iaith Gymraeg sy'n ffynnu
- Cymru sy'n gyfrifol yn fyd-eang
Mae manylion y ffordd rydym yn mynd i'r afael â'r nodau hyn wedi'u nodi yn llawn yn y Cynllun Gweithredu.
Rôl
Cafodd 'Grŵp Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru’ ei benodi gan y 'Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd' ym mis Mehefin 2014. Ei nod yw cefnogi'r broses o weithredu'r fframwaith. Mae'r grŵp yn ymdrin â’r holl faterion sy’n gysylltiedig ag iechyd a llesiant anifeiliaid. Mae’n cryfhau’r cysylltiad rhwng:
- Llywodraeth Cymru
- ceidwaid da byw
- perchnogion anifeiliaid eraill
- cynrychiolwyr y diwydiant
Mae'r aelodau yn chwarae rhan allweddol wrth wneud y canlynol:
- codi ac ystyried materion newydd a allai gael effaith ar gyflawni prif ganlyniadau'r fframwaith
- herio polisïau newydd
- adolygu datblygiad canlyniadau
- hwyluso a symleiddio'r broses o rannu negeseuon allweddol â sefydliadau'r diwydiant a grwpiau o gynrychiolwyr
- darparu cysylltiadau sefydlog i'r gymuned amaethyddol a gwledig yn ehangach
Aelodaeth
Mae'r Grŵp yn cynnwys 8 o aelodau sydd wedi'u penodi yn gyhoeddus gan gynnwys y Cadeirydd. Mae Prif Swyddog Milfeddygol Cymru hefyd yn aelod o'r Grŵp fel aelod ex officio. Y tymor penodi ar gyfer pob aelod yw 3 blynedd.
Mae aelodau yn gwasanaethu fel unigolion. Nid ydynt yn cynrychioli unrhyw sefydliadau yn ffurfiol.
Mae'n bosibl y bydd y Grŵp yn sefydlu is-grwpiau i gefnogi ei waith. Cytunir ar gylch gwaith grwpiau o'r fath gan y Cadeirydd a'r Grŵp.
Cyfarfodydd a ffyrdd o weithio
Mae'r Grŵp Iechyd a Lles Anifeiliaid yn cyfarfod bob chwarter. Yn ogystal â hyn, bydd aelodau yn mynd i ddiwrnodau ad hoc sy'n cefnogi'r broses o roi'r fframwaith ar waith a'r blaenoriaethau presennol.
Cyfathrebu a'r iaith Gymraeg
Bydd agendâu a chofnodion y cyfarfodydd chwarterol yn cael eu cyhoeddi yn y Gymraeg a'r Saesneg ar y wefan hon. Mae hyn yn cydymffurfio â deddfwriaeth sy'n rheoli mynediad y cyhoedd at wybodaeth. Yn ogystal, bydd unrhyw adroddiadau sy'n cael eu comisiynu gan y Grŵp hefyd yn cael eu cyhoeddi.
Bydd y gwaith sy'n cael ei wneud gan y Grŵp Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru yn cydymffurfio â safonau iaith Gymraeg Llywodraeth Cymru.
Cynllun Gweithredu
Rydym yn cyhoeddi Cynllun Gweithredu blynyddol sy’n rhoi amlinelliad o'r prif amcanion a'r gwaith sydd i'w wneud.
Mae'r cynllun yn canolbwyntio ar brif flaenoriaethau ar gyfer codi safonau ac ar gyfer iechyd a lles anifeiliaid. Mae’n cynnwys:
- da byw fferm
- anifeiliaid anwes
- anifeiliaid sy'n gweithio
- anifeiliaid sy'n cael eu cadw sy'n rhan o chwaraeon a dyframaethu ble yn berthnasol
Mae'r Grŵp yn cynnig cyngor a chanllawiau arbenigol. Mae hyn yn hysbysu a llywio'r cynllun gweithredu. Mae hefyd yn cefnogi'r broses o gyflawni'r amcanion hyn drwy gydol y flwyddyn.