Mae adroddiad annibynnol yn galw ar i Lywodraeth Cymru ymrwymo i raglen 30 mlynedd i leihau'r allyriadau carbon sy'n dod o'n cartrefi.
Dyna un yn unig o'r argymhellion yn yr adroddiad sy'n cydnabod yr heriau gwleidyddol, economaidd a chymdeithasol sydd ynghlwm wrth wneud cartrefi'n wyrddach ac i ddefnyddio ynni'n fwy effeithlon.
Cafodd yr adroddiad 'Cartrefi Gwell, Cymru Well, Byd Gwell' ei gomisiynu llynedd gan Weinidogion Cymru a'i ysgrifennu gan Grŵp Cynghori annibynnol ar Ddatgarboneiddio Cartrefi yng Nghymru.
O dan gadeiryddiaeth Christopher Jofeh, cyn arweinydd ôl-osod adeiladau byd-eang Arup, mae'r Grŵp wedi treulio'r 15 mis diwethaf yn ystyried y dystiolaeth ynghylch sut i greu'r amodau sydd eu hangen i lwyddo. Dyma'r argymhellion a'r camau cysylltiedig:
- Dylai pleidiau gwleidyddol yng Nghymru wneud ymrwymiad strategol i ddatgarboneiddio cartrefi'r wlad a chadw ato.
Dylai Llywodraeth Cymru:
- osod targedau ynni uchelgeisiol fel bod cartrefi'n ddi-garbon net erbyn 2050
- darparu'r system ansawdd a'r mecanweithiau darparu priodol i bob cartref allu taro'r targedau
- datblygu pecyn holistig o gymorth ar gyfer pob cartref i'w gymell a'i helpu i weithredu
- casglu data am statws a chyflwr y stoc dai i lywio penderfyniadau'r dyfodol a mesur cynnydd
- parhau i fonitro a phrofi atebion newydd i helpu i ddatgarboneiddio cartrefi
- cael cymunedau, rhwydweithiau, cymdeithasau a mudiadau'r trydydd sector i gydweithio i sicrhau'r newidiadau.
Mae'r Adroddiad yn ei gwneud yn glir bod angen i Lywodraeth Cymru arwain eraill - mudiadau, cymunedau ac unigolion - i wneud eu rhan.
Wrth gymryd yr adroddiad heddiw mewn digwyddiad yn yr Exchange Hotel yng Nghaerdydd, dywedodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol:
Rwy'n croesawu argymhellion y Grŵp Cynghori a hoffwn ddiolch i Chris a holl aelodau'r Grŵp am eu harbenigedd a'u dirnadaeth.
Nid ar chwarae bach y gwnawn ein cartrefi'n wyrddach a defnyddio ynni'n fwy effeithlon, yn enwedig o gofio mai yng Nghymru y mae rhai o'r tai hynaf a lleiaf thermo-effeithlon yn y DU ac Ewrop.
Ond daw â chyfleoedd anferth - biliau tanwydd is, ansawdd aer gwell, cartrefi mwy cyfforddus, iechyd gwell, swyddi newydd a sgiliau. Mae angen inni fod yn uchelgeisiol a chreadigol i weld y newid sydd ei angen.
Meddai Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig:
Mae'n argyfwng hinsawdd. Mae ein Cynllun Gweithredu ar Garbon Isel yn nodi'r camau y bydd angen inni eu cymryd i leihau allyriadau a chefnogi twf yr economi rhad-ar-garbon a'r Adroddiad hwn yw un o'r pethau cyntaf y gwnaethon ni ei addo.
Mae gwneud ein cartrefi'n wyrddach ac yn fwy effeithlon o ran ynni yn gwbl ganolog i hyn ac er bod Llywodraeth Cymru'n barod i dangos arweiniad, rwyf wedi bod yn glir iawn bod yn rhaid i bob un ohonon ni chwarae ein rhan i wneud Cymru'n wlad carbon isel.
Mae'r adroddiad hwn yn dangos maint yr her o'n blaenau ond hefyd y manteision lu i'n cymdeithas, economi a'n hamgylchedd naturiol.
Dywedodd Christopher Jofeh:
Mae'n bryd nawr i Gymru gymryd yr awenau a dangos sut mae gwneud pethau. Bydd y manteision yn aruthrol ac yn eang, i deuluoedd, i fusnesau ac i Gymru.
Bydd y Gweinidog Tai nawr yn ystyried argymhellion a chamau manwl yr adroddiad ac yn ymateb yn yr Hydref.