Gwybodaeth am bersonél, cydraddoldeb ac amrywiaeth , iechyd a diogelwch, gweithgareddau gweithredol ac ymweliadau diogelwch tân ar gyfer Ebrill 2018 i Mawrth 2019.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Ystadegau gweithredol y gwasanaeth tân ac achub
Gwybodaeth am y gyfres:
Prif bwyntiau
Gweithwyr yr awdurdodau tân ac achub
- Roedd 2,096 o staff cyfwerth ag amser llawn a 1,331 o staff system ar ddyletswydd yn ôl galw wedi’u cyflogi ar draws ardaloedd y tri Awdurdod Tân ac Achub Cymru ar 31 Mawrth 2019 o gymharu â 2,139 o staff amser llawn a 1,328 o staff wrth gefn ar 31 Mawrth 2018. Mae niferoedd y staff wedi amrywio ers 2004-05, ond dyma’r cwymp cyntaf yn y niferoedd ers 2015-16.
- O’r 2,096 staff cyfwerth ag amser llawn, roedd dros ddwy ran o dair (1,414) yn ddiffoddwyr tân amser cyflawn, cyfran debyg i flynyddoedd cynharach.
Iechyd a diogelwch
- Yn ystod 2018-19, collwyd 9.9 sifft/diwrnod y pen oherwydd salwch ar gyfer diffoddwyr tân amser cyflawn ac 22.7 sifft/diwrnod ar gyfer staff rheoli tân.
- Cafodd diffoddwyr tân amser cyflawn (gan gynnwys criwiau dydd) a diffoddwyr tân wrth gefn 144 o anafiadau yn ystod gweithgareddau gweithredol a hyfforddiant.
Gweithgareddau gweithredol
- Yn ystod 2018-19 deliodd staff rheoli tân gyda dros 80,000 o alwadau yng Nghymru, cynnydd o 14% ar 2017 18.
Diogelwch tân
- Yn ystod 2018-19, cwblhaodd Awdurdodau Tân ac Achub Cymru 3,409 archwiliad diogelwch tân yn adeiladau annomestig. Roedd hyn yn cynrychioli 4% o adeiladau o’r fath yng Nghymru.
Diogelwch tân cymunedol
- Yn ystod 2018-19, cwblhaodd yr Awdurdodau Tân ac Achub yng Nghymru dros 51,000 o wiriadau diogelwch tân yn y cartref, mewn 96% o’r rhain, nodwyd bod o leiaf un aelod o’r aelwyd yn arddangos risg.
- Yn ystod 2018-19, cwblhaodd yr Awdurdodau Tân ac Achub dros 18,000 o wiriadau diogelwch tân yn y cartref a oedd hefyd yn cynnwys y cwblhad o weithgareddau atal nad yw’n gysylltiedig â thân. Gwnaeth bron i 1,600 gael eu cyfeirio ymlaen gan yr Awdurdodau Tân ac Achub i sefydliad arall
- Derbyniodd bron i 115,000 o blant a phobl ifanc sgwrs tân a diogelwch yn yr ysgol gan yr Awdurdodau Tân ac Achub yn ystod 2018-19.
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.