Daeth yr ymgynghoriad i ben 2 Mai 2012.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb cyd-ymateb Defra a Llywoidraeth Cymru ac ymateb y Llywodraeth (Saesneg yn unig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 346 KB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Ymgynghoriad ar yr egwyddorion i'w defnyddio wrth benderfynu a allai proses tynnu (gwaredu) dŵr achosi difrod difrifol.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Ymgynghoriad yw hwn gydag Adran yr Amgylchedd Bwyd a Materion Gwledig (Defra).
At bwy mae’r ymgynghoriad hwn wedi’i anelu
Rydym yn croesawu ymatebion gan unrhyw un sydd â diddordeb mewn prosesau tynnu (gwaredu) dŵr a’u heffeithiau ar yr amgylchedd.
Pwrpas yr ymgynghoriad
Rydym am gael eich barn ar yr egwyddorion i’w defnyddio wrth benderfynu un ai i ddiddymu neu newid trwydded tynnu dŵr er mwyn diogelu’r canlynol:
- dyfroedd;
- haenau tanddaearol (haenau o greigiau neu waddod);
- planhigion;
- anifeiliaid.
Hoffem i chi ddweud y canlynol wrthym:
- a yw’r egwyddorion a ddisgrifir yn yr ymgynghoriad yn berthnasol a phriodol?
- a ddylid ystyried unrhyw egwyddorion eraill?
- a ydych chi o’r farn bod yr egwyddorion hyn yn egluro'n glir yr amgylchiadau y gallai’r Ysgrifennydd Gwladol neu Weinidogion Cymru ddiddymu’r hawl i iawndal o dan Adran 27 o Ddeddf dŵr 2003?
Paratowyd Asesiad o Effaith Deddf dŵr 2003 gan gynnwys adran 27 o’r ddeddf. Ni pharatowyd Asesiad Effaith newydd ar gyfer yr ymgynghoriad hwn.