Jane Hutt AC, Y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip
Cafodd Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 Gydsyniad Brenhinol ym mis Ebrill 2015, gan helpu i roi Cymru ar lwybr mwy cynaliadwy tuag at gyflawni llesiant. Gosododd y Ddeddf saith nod llesiant i Gymru. Nodau i sicrhau Cymru fwy cyfartal, lewyrchus, gydnerth, iachach, sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus, ag iddi ddiwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu, oedd y rhain.
Cyn inni allu cyd-gyflawni ein huchelgais hirdymor i Gymru, mae angen ffyrdd o fesur a deall ar lefel genedlaethol a ydy'r genedl ar y trywydd cywir i gyflawni ein nodau llesiant. Dyna’r rheswm pam y mae gennym 46 o ddangosyddion cenedlaethol ar hyn o bryd, a pham yr ydym yn awr yn y broses o ddatblygu a phennu cerrig milltir cenedlaethol.
Nod y cerrig milltir, fel y dangosyddion cenedlaethol, fydd adlewyrchu'r cyfraniad y mae pob corff cyhoeddus, unigolyn a sefydliad yn ei wneud ar y cyd. Nid yw’r cerrig milltir wedi’u cynllunio, fodd bynnag, i fesur y cyfraniad a wna sefydliadau unigol. Yn hytrach, rydym yn gobeithio pennu cyfres o fesurau yn erbyn dangosyddion cenedlaethol a fydd yn ein helpu i ddeall yn well a ydym ar y trywydd cywir fel cenedl i gyflawni ein nodau llesiant.
Ym mis Ionawr 2019 cyhoeddwyd ymgynghoriad gennym yn nodi ac yn gofyn am sylwadau ar:
- y meini prawf ar gyfer dewis cerrig milltir cenedlaethol
- y dangosyddion cenedlaethol y byddwn yn pennu cerrig milltir cenedlaethol yn eu herbyn.
Gofynnwyd yn yr ymarfer ymgynghori hefyd am sylwadau a ellid gwella'r dangosyddion cenedlaethol mewn unrhyw fodd.
Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i'r 75 o sefydliadau ac unigolion a ymatebodd i'r ymgynghoriad cyhoeddus, yn ogystal â'r rheini a fanteisiodd ar y cyfle i roi eu barn a chymryd rhan yn yr amrywiol ddigwyddiadau ymgynghori a gynhaliwyd gennym.
Rwy'n falch o gyhoeddi heddiw grynodeb o'r ymatebion ynghyd ag ymateb y Llywodraeth i rai o'r sylwadau allweddol a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori. Cododd amrywiaeth o themâu allweddol yn ystod y broses ymgynghori. Rydym wedi ystyried y rhain a byddwn yn eu cynnwys yn y cam nesaf o'r gwaith hwn.
Roeddwn yn falch o weld bod y rheini a ymatebodd yn cytuno'n gyffredinol â'r gyfres o feini prawf a gynigiwyd ar gyfer dewis cyfres fach o ddangosyddion cenedlaethol i ddatblygu cerrig milltir yn eu herbyn. Byddwn yn cadw mewn cof, fodd bynnag, y pwyntiau a'r materion a nodwyd drwy'r ymgynghoriad a'n trafodaethau parhaus â rhanddeiliaid allweddol ac yn mireinio'r meini prawf yn unol â hwy.
O safbwynt y gyfres fach o ddangosyddion cenedlaethol y byddwn yn datblygu cerrig milltir cenedlaethol yn eu herbyn, yr Amgylchedd a Thai oedd y ddau brif thema a godwyd fel y rheini yr oedd angen eu cryfhau. Byddwn yn edrych yn fanwl ar hyn gyda'n rhanddeiliaid ac yn ystyried sut allwn ni adlewyrchu'r ddau fater allweddol hwn orau.
Yn yr un modd, byddwn yn ystyried y farn a fynegwyd ynglŷn â sut y gallwn wella'r cyfres bresennol o 46 o ddangosyddion cenedlaethol a gwneud unrhyw ddiwygiadau priodol, pan fo'n amlwg bod angen newid dangosyddion a gynlluniwyd fel rhai ar gyfer y tymor hir.
Mae'r dangosyddion hyn eisoes yn cael eu defnyddio'n helaeth ar draws y sector cyhoeddus i ddangos ein cynnydd yn erbyn y nodau llesiant. Bydd ein cerrig milltir cenedlaethol i Gymru yn cynnig cyfle newydd i ddarparu darlun cliriach eto o economi, cymdeithas, diwylliant ac amgylchedd Cymru.
Wrth roi'r Ddeddf ar waith, rydym wedi ceisio ymwreiddio'r gofynion yn ein gwaith o ddydd i ddydd – gan fanteisio ar y cyfle sy'n cael ei gynnig gan y Ddeddf i ganolbwyntio ein hymdrechion ar y gwahaniaethau yr ydym am eu gwneud heddiw ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Rydym wedi dilyn yr un dull gweithredu wrth osod y cerrig milltir.
Byddwn yn gweithio yn awr gyda'n partneriaid allweddol a chyrff cyhoeddus eraill i symud y gwaith hwn yn ei flaen a datblygu cerrig milltir cenedlaethol integredig ac ystyrlon a fydd yn siapio ein camau gweithredu a’n hymddygiadau ar y cyd er budd Cymru.
Bydd y cerrig milltir cenedlaethol yn berthnasol i’r cyfnod 2021-2050 a, lle bo hynny'n briodol, defnyddir y targedau presennol. Bydd union natur pob carreg filltir yn amrywio gan ddibynnu ar y cynnydd penodol yr ydym yn dymuno ei fesur.
Wrth reswm, bydd angen data cadarn a chywir, sy'n gallu cefnogi trefniadau adrodd rheolaidd, i gyd-fynd â'r holl gerrig milltir. Mae'n debygol y bydd angen cyflwyno'r cerrig milltir gam wrth gam a bydd hi'n bosibl i'r rhan fwyaf, os nad pob un ohonynt, fod yn eu lle erbyn 2021.
Byddaf yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am ein gwaith ar hyn yn yr hydref.