Y wybodaeth ddiweddaraf gan Nazir Afzal ac Yasmin Khan am y cynnydd o ran cyflawni ymrwymiad Llywodraeth Cymru i weithio tuag at sicrhau mai Cymru yw'r lle mwyaf diogel yn Ewrop i fenywod.
Fel Cynghorwyr Cenedlaethol i Lywodraeth Cymru ar Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol, roeddem yn credu y byddai'n ddoeth cyhoeddi datganiad hanner ffordd drwy ein cyfnod yn y swydd i dynnu sylw at yr hyn a gyflawnwyd hyd yn hyn a beth arall sy'n cael ei wneud.
Digon yw dweud ein bod wedi gweld cynnydd sylweddol wrth weithio tuag at sicrhau mai Cymru yw'r lle mwyaf diogel yn Ewrop i fenywod. Credwn hefyd y gall yr holl bobl agored i niwed sy'n wynebu risg fod yn ffyddiog bod ymrwymiad Llywodraeth Cymru i'w hamddiffyn, i atal niwed ac i gefnogi'r sawl sydd wedi'u niweidio, yn gryfach nag erioed.
Mae ymgyrchoedd cyfathrebu arloesol "Dyma Fi", "Paid Cadw'n Dawel" a "Nid cariad yw hyn. Rheolaeth yw hyn." wedi codi ymwybyddiaeth o amrywiaeth dinasyddion Cymru, y cyfrifoldeb sydd gan bob un ohonom i fod yn effro i'r ffaith y gall rhywun gerllaw fod yn dioddef, a'r gydnabyddiaeth nad yw cam-drin bob amser yn golygu trais corfforol, ond nad yw hynny'n lleihau ei effaith chwaith. Gwyddom fod llawer mwy o ddioddefwyr wedi cael cymorth o ganlyniad i'r cynnydd hwn mewn ymwybyddiaeth.
Yn ychwanegol at hynny, mae dros 158,000 o weision sifil bellach wedi cael hyfforddiant ar adnabod arwyddion camdriniaeth drwy Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol y Llywodraeth. Mae'r ddau ohonom wedi gweithio'n helaeth ledled y DU ac yn rhyngwladol, a gwyddom fod hyn yn gofyn am ymdrech anferthol o hyd. Os ystyriwn fod camdriniaeth yn epidemig, ni fydd unrhyw beth llai nag ymateb brys yn gwneud y tro.
Mae'r ffaith bod y Dangosyddion Cenedlaethol cyntaf erioed i fesur perfformiad awdurdodau lleol yn y maes hwn wedi cael eu cyhoeddi'n ddiweddar yn brawf o hynny.
Cydnabyddir y bydd ein rhwymedigaethau rhyngwladol yn cael eu cyflawni ac mae'r llythyr gan y Prif Weinidog i Lywodraeth y DU yn ei hannog i gadarnhau Confensiwn Rhyngwladol hanfodol Istanbwl yn dystiolaeth glir o awydd Cymru i arwain y ffordd a mynd â gweddill y DU gyda ni.
Rydym yn cydnabod bod ariannu gwasanaethau dioddefwyr mewn modd cynaliadwy yn heriol, ond mae'r gwaith trawslywodraethol yn y maes hwn yn galonogol. Ni all y Llywodraeth ariannu popeth ond, drwy weithio gyda phartneriaid gan gynnwys awdurdodau Iechyd, Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu ac Awdurdodau Lleol, dylai penderfyniadau ariannol Llywodraeth y DU effeithio ar lai o ddioddefwyr.
Mae llawer o arloesi'n digwydd ac yn yr arfaeth, ac mae'r cyfan yn cynnwys dioddefwyr a goroeswyr drwy ymgynghori ffurfiol. Ni ddylai UNRHYW ddioddefwr fynd yn angof.
Y drasiedi yw na allwn atal pob math o niwed, felly mae'r ymdrechion a wneir ym myd Addysg mewn perthynas â pherthnasoedd a chydraddoldeb rhywiol yn arbennig o bwysig. Dyma'r ffordd y byddwn yn sicrhau newid gwirioneddol, pan fyddwn yn gallu dweud yn onest y bydd y genhedlaeth nesaf nid yn unig yn rheoli'r risgiau ond yn cael gwared arnynt yn llwyr.
Nazir Afzal OBE ac Yasmin Khan
Cynghorwyr Cenedlaethol