Mae ceisiadau wedi agor ar gyfer cronfa i helpu grwpiau i chwalu rhai o’r mythau sy’n gysylltiedig â rhoi organau mewn cymunedau du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig.
Er bod yr ystadegau diweddaraf yn dangos bod mwy o ddealltwriaeth a chefnogaeth gan yr ymgyrch rhoi organau ymhlith cymunedau du ac Asiaidd, mae 20% o’r ymatebwyr yn dal i ddweud na fyddent yn rhoi organau a dywedodd 43% ohonynt nad oeddynt yn gwybod.
Y prif beth sy'n eu rhwystro yw'r gred bod rhoi organau yn erbyn eu diwylliant neu yn erbyn eu crefydd. Fodd bynnag, mae pob un o brif grefyddau'r DU yn cefnogi rhoi organau a thrawsblannu.
Mae’r arolwg diweddaraf yn dangos bod lefelau dealltwriaeth yn gwella. O’i gymharu â 22 y cant ym mis Mai 2018, atebodd 39 y cant o’r ymatebwyr yn gywir mai organau gan roddwr sydd o’r un cefndir ethnig â hwythau fyddai’n cydweddu orau. Dywedodd 35 y cant o’r ymatebwyr fod pobl ddu ac Asiaidd yn fwy tebygol o fod angen trawsblaniad, o’i gymharu ag 11 y cant ym mis Mai 2018.
Mae grwpiau cymunedol a grwpiau ffydd ledled Cymru a Lloegr bellach yn cael eu gwahodd i wneud cais am gyllid o gronfa £20,000, i helpu i chwalu'r mythau a'r rhwystrau a chynyddu'r gefnogaeth i roi organau ymhlith cymunedau du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig.
Caiff y cynllun ei gyllido gan Lywodraeth Cymru a'r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ac mae’n cael ei arwain gan Gwaed a Thrawsblaniadau'r GIG.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething:
“Rydym wedi gweld gwelliant mawr yn y niferoedd sy'n rhoi caniatâd i roi organau yng Nghymru yn ddiweddar, ond mae pobl yn marw o hyd wrth aros am drawsblaniad, felly mae angen gymaint o bobl â phosibl arnom o bob cefndir ethnig i gytuno i roi organau.
Mae'r gwaith ymchwil diweddaraf hwn yn tynnu sylw at nifer o gamsyniadau sydd gan bobl o hyd mewn perthynas â rhoi organau. Rydym eisiau gwneud yn siŵr bod gan bobl yr holl wybodaeth angenrheidiol wrth iddynt wneud eu penderfyniad, a dyna'r rheswm dros gynnig cyllid i helpu grwpiau cymunedol i sôn wrth bobl o gefndiroedd du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig am roi organau a'r effaith bositif y gall y penderfyniad i roi organau ei chael.”
Dywedodd Anthony Clarkson, Cyfarwyddwr Dros Dro Rhoi Organau a Thrawsblannu Gwaed a Thrawsblaniadau'r GIG:
“Mae’r prosiectau sy’n cael eu hariannu o dan gylch cyntaf y cynllun hwn wedi ysgogi sgyrsiau ar draws gwahanol grwpiau ffydd a chymunedau am y rhodd werthfawr o roi organau.
“Rydym wrth ein boddau bod modd inni gefnogi ail gylch o’r gwaith gwych hwn sy’n cael ei arwain gan y gymuned. Rydym yn gobeithio gallu annog mwy o bobl o gefndiroedd du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig i benderfynu eu bod nhw am achub bywydau drwy roi organau a rhoi gwybod i’w teuluoedd am y penderfyniad hwnnw.”