Nid yw dros hanner poblogaeth Cymru (58%) yn gwneud unrhyw baratoadau ar gyfer eu henaint. Dyna sy'n cael ei awgrymu mewn ymchwil newydd a gyhoeddwyd heddiw (17 Gorffennaf) gan Lywodraeth Cymru.
Ond, dywedodd 70% o'r rhai hynny a holwyd eu bod yn bryderus am y gefnogaeth gofal cymdeithasol y gallai fod ei hangen arnynt yn y dyfodol.
Comisiynwyd yr arolwg i ddarganfod beth y mae pobl Cymru yn ei ddeall am ofal cymdeithasol a sut y mae'n cael ei ariannu, wrth i Lywodraeth Cymru ystyried sut y bydd yn diwallu'r cynnydd a ragwelir mewn costau gofal cymdeithasol.
Nododd y canlyniadau hefyd mai dim ond 27% o'r genedl sy'n debygol o fod yn cynilo arian ar gyfer unrhyw ofal cymdeithasol y gallai fod ei angen arnynt yn y dyfodol. Ond, roedd dros saith o bob deg o'r ymatebwyr (72%) yn credu y dylai pawb wneud darpariaeth ar gyfer eu henaint pan maen nhw’n ifanc ac mewn gwaith.
Roedd bron i 80% yn gwybod y gall fod angen i bobl dalu tuag at gostau cymorth gofal cymdeithasol yn eu cartrefi eu hunain. Dim ond 9% oedd yn meddwl y byddai'n cael ei ddarparu am ddim. Er nad yw pobl yn paratoi, maent yn bryderus ynghylch y gefnogaeth gofal cymdeithasol y gallai fod ei hangen arnynt. Roedd y pryderon yn cynnwys cost, ansawdd ac argaeledd gofal cymdeithasol.
Roedd yr ymchwil, lle holwyd 1000 o bobl ledled Cymru, yn dangos bod llai na thri o bob deg o bobl (27%) yn teimlo bod ganddynt lawer o wybodaeth, neu wybodaeth weddol ynglŷn â sut y mae'r system gofal cymdeithasol yn gweithio yng Nghymru.
Mae Llywodraeth Cymru yn edrych ar ddewisiadau ar gyfer cyllid tymor hir ar gyfer gofal cymdeithasol, gan y bydd y galw yn cynyddu yn sylweddol. Mae'r Gweinidog dros Iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, Vaughan Gething, wedi comisiynu rhaglen waith i archwilio’r mater ac i gynghori Llywodraeth Cymru ar ei dull o weithredu. Mae Llywodraeth Cymru eisoes yn helpu pobl i baratoi ar gyfer y dyfodol. Cymru sydd â'r terfyn cyfalaf uchaf yn y DU, sef £50,000, sy'n caniatáu i holl breswylwyr cartrefi gofal yng Nghymru gadw hyd at y swm hwn o'u cynilon, buddsoddiadau neu gyfalaf arall heb orfod ei ddefnyddio i dalu am eu gofal. Mae hyn yn lleddfu peth o'r ansicrwydd sydd gan bobl am y costau gofal y gallent eu hwynebu.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething:
"Gall fod rhagdybiaeth weithiau bod gofal cymdeithasol yn cael ei ariannu yn yr un modd â'r gofal iechyd a ddarperir gan y GIG. Ond, nid yw hyn yn wir. Gall awdurdodau lleol godi tâl am y gofal cymdeithasol a'r gefnogaeth y byddant yn ei ddarparu neu'n ei drefnu ar gyfer person.
"Ar ryw adeg yn ein bywydau, gallwn ni neu'n hanwyliaid fod angen gofal cymdeithasol. Mae canlyniadau'r ymchwil yn dangos yn glir bod pobl yn meddwl am eu gofal, ond nad ydynt efallai yn rhoi cynlluniau ar waith eto.
Rydym yn cydnabod y gall fod yn anodd paratoi ar gyfer gofal nad oes ei angen neu ei wybod eto. Mae opsiynau cyfyngedig ar gael i bobl roi cynllun ar waith. Bydd y gwaith yr wyf wedi eu comisiynu hefyd yn edrych ar sut y gallwn gefnogi pobl yn well i baratoi ar gyfer y dyfodol.
"Mae gofalu am boblogaeth sy'n heneiddio yn fater cymhleth a heriol sy'n wynebu cenhedloedd ledled y byd. Fel Llywodraeth, rydym wedi blaenoriaethu gofal cymdeithasol ac rydym wedi ymrwymo i ddatblygu modelau ariannu arloesol i gefnogi costau i'r dyfodol. Ond, mae'n bwysig ein bod yn dechrau'r sgwrs nawr ac yn cydweithio i benderfynu sut y bydd model gofal cymdeithasol Cymru yn edrych yn y dyfodol."