Daeth yr ymgynghoriad i ben 1 Mawrth 2012.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o'r ymatebion (Saesneg yn unig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 248 KB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Hoffem glywed eich barn am ein cynigion am newidiadau i'r eitemau data a gasglwyd ac a gyhoeddir ar werthiannau tai cymdeithasol.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Pwrpas yr ymgynghoriad hwn yw ceisio barn defnyddwyr am y cynigion ar gyfer:
- Newidiadau i’r eitemau data a gasglwyd ar werthiannau tai cymdeithasol ac i’r diffiniadau perthnasol;
- Y defnydd o gyhoeddiadau ar werthiannau tai cymdeithasol.
Bydd eich cyfraniadau yn ein helpu i ddeall yr effaith y gallai’r newidiadau hyn gael ar unigolion a sefydliadau sy’n defnyddio’r ystadegau hyn. Bydd canlyniad yr ymgynghoriad hwn yn ein helpu â’n penderfyniad o ran a gall y newidiadau hyn gael eu gweithredu. Mae hyn yn cydymffurfio â’r Cod Ymarfer Ystadegau Swyddogol sy’n dweud bod gweithio’n agos â defnyddwyr yn effeithiol yn hanfodol i ffydd mewn ystadegau a sicrhau’r gwerth cyhoeddus mwyaf.