Y Gwir Anrh. Mark Drakeford AC, Prif Weinidog Cymru
Caiff y Datganiad Ysgrifenedig hwn ei gyhoeddi yn dilyn y cwest i farwolaeth Carl Sargeant, a chanfyddiadau Crwner EM ar gyfer Gogledd Cymru. Hoffwn unwaith eto estyn fy nghydymdeimlad dwysaf ag aelodau’r teulu Sargeant. Rwy’n gwybod eu bod yn dal i fod mewn galar dwys yn dilyn eu colled.
Fel rhan o’i ddyletswyddau, mae gan y Crwner gyfrifoldeb i ystyried a ddylid llunio adroddiad mewn perthynas ag atal marwolaethau yn y dyfodol. Mae ef wedi cyhoeddi adroddiad rheoliad 28 ar gyfer Llywodraeth Cymru, a byddwn yn ymateb yn llawn i hwn yn unol â’r amserlen ofynnol. Cyn i’r gwrandawiadau gael eu cynnal yr wythnos hon, ac fel ymateb i gais gan y Crwner, rhoddais ddatganiad i’r cwest a oedd yn egluro natur y gofal bugeiliol a’r cymorth sydd ar gael i Weinidogion sy’n gadael y llywodraeth.
Gan fod proses y cwest wedi dirwyn i ben erbyn hyn, mae’n briodol inni gael cyfnod o adlewyrchu. Byddaf yn asesu pa gamau pellach y dylid eu cymryd, gan ymgynghori â’r teulu Sargeant a phartïon eraill sydd â buddiant, a bydd hyn yn cynnwys dyfodol proses yr Ymchwiliad Annibynnol gan Gwnsler y Frenhines, yn arbennig o ystyried cwmpas a manylder cwest y crwner
Cyn hynny, fel y dywedais yn fy Natganiad Ysgrifenedig i’r Aelodau ym mis Ebrill, rwy’n cyhoeddi heddiw adroddiad terfynu’r gwasanaeth sifil i’r ymchwiliad i’r achos o ddatgelu gwybodaeth heb ganiatâd, mewn perthynas â gwybodaeth a ddatgelwyd yn flaenorol ynglŷn ag ad-drefnu’r Cabinet yn 2017. Mae’r adroddiad hwn wedi bod ar gael i’r Crwner. Mae Swyddfa Cabinet Llywodraeth y DU wedi cadarnhau bod methodoleg yr ymchwiliad yn gydnaws â’r dull y byddai wedi’i ddilyn ei hun wrth gynnal ymchwiliadau tebyg.
Rwyf hefyd yn cyhoeddi fy ngohebiaeth â Jonathan Jones CF ynglŷn â’i ymchwiliad annibynnol ef i Brotocol Gweithredol yr Ymchwiliad Annibynnol gan Gwnsler y Frenhines a gomisiynwyd gennyf ar ôl i’r adolygiad barnwrol gyflwyno ei ganfyddiadau yn gynharach eleni, a Phrotocol diwygiedig yn dilyn ei adolygiad ef. Fel y dywedwyd eisoes, mae Protocol diwygiedig yn un o’r opsiynau yr hoffwn allu elwa arno wrth imi asesu y camau nesaf. Ynghyd ag adroddiad Ymchwiliad Hamilton sydd wedi cael ei osod yn y Cynulliad yn barod, golyga hyn fod yr holl ddogfennau ffurfiol ac adroddiadau sy’n cael eu cadw gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â’r mater hwn yn awr yn cael eu cyhoeddi yn yr un man.
Byddaf yn rhoi gwybod i’r Aelodau pa gamau y byddaf yn penderfynu eu cymryd nesaf wedi imi orffen ystyried y materion a grybwyllir uchod.