Heddiw mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Safonau Proffesiynol ar gyfer Cynorthwyo Addysgu, sy'n canolbwyntio ar ddatblygu cynorthwywyr addysgu a chynorthwywyr addysgu lefel uwch. Maent yn rhan o gynlluniau ehangach i gryfhau'r proffesiwn addysgu cyfan cyn cyflwyno'r cwricwlwm newydd.
Mae hyn yn cynnwys y buddsoddiad mwyaf erioed, sef £24 miliwn, yn nysgu proffesiynol athrawon a diwrnod HMS ychwanegol arfaethedig er mwyn rhoi mwy o amser iddynt hyfforddi.
Mae cynorthwywyr addysgu, penaethiaid, y consortia rhanbarthol a phartneriaid allweddol eraill wedi profi'r safonau a chyfrannu atynt, sy'n adlewyrchu pwysigrwydd cydweithio er mwyn sicrhau cymuned addysgu fedrus a gefnogir yn dda.
Cyhoeddwyd adroddiad ymchwil gan Brifysgol Fetropolitan Caerdydd heddiw hefyd, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, ar rolau a chyfrifoldebau staff cymorth sy'n gweithio yn y dosbarth mewn ysgolion cynradd .
Gan weithio gyda phartneriaid i roi argymhellion yr adroddiad ar waith, mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi'r rheini sy'n cynorthwyo ag addysgu drwy roi cyfle iddynt ddatblygu eu sgiliau a'u helpu i nodi llwybr gyrfa clir ac ymrwymo i ddysgu proffesiynol.
Bydd y safonau hyn hefyd yn helpu'r rheini sy'n dymuno dod yn Gynorthwywr Addysgu Lefel Uwch neu symud ymlaen i fod yn athro cymwysedig.
Dywedodd Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg:
“Gwyddom fod gan y systemau addysg sy’n perfformio orau yn y byd athrawon a staff cymorth egnïol a brwdfrydig sy'n dysgu'n barhaus.
"Mae'r staff cymorth yn ein dosbarthiadau yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr gan ysgolion, a bydd y safonau newydd hyn yn helpu i gryfhau eu sgiliau ac yn cefnogi'r rheini sy'n dymuno symud ymlaen yn eu gyrfa.
"Mae'r safonau'n ychwanegol at y pecyn o gymorth ar gyfer y proffesiwn addysgu i'w helpu i gyflwyno'r cwricwlwm newydd i Gymru - ein cwricwlwm cyntaf erioed a wnaed yng Nghymru."