Mae’r Gorchymyn hwn yn darparu ar gyfer trosglwyddo staff, eiddo ac atebolrwyddau ar 1 Ebrill 2019 oddi wrth Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Bae Abertawe i Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.
Dogfennau
![](/sites/default/files/styles/file_thumb/public/publication-doc-thumbnails/gorchymyn-byrddau-iechyd-lleol-newid-ardaloedd-trosglwyddo-staff-eiddo-ac-atebolrwyddau-cymru-2019-2019-rhif-6-thumb_jpg.jpg?itok=W-PUK7mJ)
Gorchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Newid Ardaloedd) (Trosglwyddo Staff, Eiddo ac Atebolrwyddau) (Cymru) 2019 (2019 Rhif 6) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 652 KB
Manylion
Mae’r Gorchymyn hwn wedi ei wneud o ganlyniad i’r newid i ardaloedd y ddau fwrdd iechyd lleol gan Orchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Newid Ardaloedd) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2019 (“y Gorchymyn Newid Ardaloedd”). Trosglwyddodd y Gorchymyn Newid Ardaloedd brif ardal llywodraeth leol Pen-y-bont ar Ogwr fel ei bod yn rhan o ardal Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Ailenwodd y Gorchymyn Newid Ardaloedd y ddau fwrdd iechyd lleol hefyd.