Bwrdd Tegwch mewn Addysg STEM: yr hyn rydym yn ei wneud
Mae'r Bwrdd Tegwch mewn Addysg STEM yn arwain at wella tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant ar draws cymuned STEM Cymru. Mae'n fforwm i lysgenhadon STEM ddod at ei gilydd i drafod problemau a chynnydd.
Gwella tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant mewn addysg STEM
Mae sgiliau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM) yn ein helpu i lunio cymdeithas fodern. Gall cymryd rhan mewn pynciau STEM sicrhau manteision gydol oes oherwydd yr angen cynyddol am y sgiliau hyn.
Fodd bynnag, nid yw cyfleoedd i fagu sgiliau STEM yn cael eu rhannu'n gyfartal ar draws cymdeithas. Mae grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol mewn rhai meysydd addysg, ymchwil a chyflogaeth STEM yn cynnwys:
- menywod
- pobl anabl o leiafrifoedd ethnig
- pobl anabl
- pobl o gefndiroedd sydd heb adnoddau digonol
- Pobl LHDTC+
Mae angen inni sicrhau bod pawb yn cael cyfle teg mewn STEM, a rydym yn cymryd camau i fynd i'r afael â'r materion hyn.
Bwrdd Tegwch mewn Addysg STEM
Cadeirydd y Bwrdd yw’r Weinidog dros Bartneriaeth Gymdeithasol.
Mae aelodau'r Bwrdd yn cynnwys:
- Prif Swyddog Gwyddonol Cymru
- Llysgenhadon STEM
- Swyddogion Llywodraeth Cymru
Mae'r bwrdd yn cyfarfod bob chwe mis i drafod problemau a chynnydd.
Mae dau is-grŵp yn cyfarfod ac yn cynnal eu rhaglenni gwaith eu hunain rhwng cyfarfodydd bwrdd:
- Is-grŵp Tegwch mewn Addysg STEM
- Is-grŵp Diwydiant Tegwch mewn Addysg STEM
Mae gan yr is-grwpiau aelodaeth ehangach na'r bwrdd. Maent yn cynghori'r bwrdd ac yn darparu argymhellion sy'n seiliedig ar dystiolaeth.
Ein hymrwymiadau
Er mwyn mynd i'r afael ag annhegwch mewn STEM rydym yn:
Buddsoddi mewn mentrau addysg gynnar
Cyflwyno polisïau a deddfwriaeth gryfach
Mae hyn yn cynnwys polisïau ynghylch:
- gwahaniaethu ar sail rhyw
- cyflogau cyfartal
- aflonyddu rhywiol
Annog arferion yn y gweithle sy'n hyrwyddo amrywiaeth
Er enghraifft:
- mentora
- rhwydweithio
- gweithio hyblyg;
- cyfleoedd datblygu gyrfa
Datblygu metrigau a data gwell
Caniatáu i ni:
- fesur effaith annhegwch mewn STEM.
- llywio ymyriadau a pholisïau mwy effeithiol.