Mae radon yn nwy ymbelydrol naturiol
Gall fod yn niweidiol i iechyd gan ei fod yn cynhyrchu gronynnau ymbelydrol bach yn yr aer rydym yn ei anadlu.
Gall ymbelydredd o'r gronynnau hyn niweidio meinwe'r ysgyfaint, a dros amser hir gall achosi canser yr ysgyfaint.
Mae radon ym mhob adeilad ond mae’r lefelau yn isel yn y rhan fwyaf o ardaloedd. Ond yn yr ardaoloedd hynny sydd wedi eu heffeithio gan radon mae rhai adeiladau gyda lefelau uwch .
Dylai adeiladau sydd yn yr ardaloedd hyn gael eu profi am radon.
Gellir lleihau’r lefelau uchel drwy wneud gwaith adeiladu syml.
Gall UKradon rhoi cyngor a mapiau i weld a ydych mewn ardal sydd wedi ei effeithio gyda radon.