Gall rhai o'r aelwydydd mwyaf agored i niwed yng Nghymru fod yn colli cyfle i gael cymorth gwerthfawr gyda'u treth gyngor - dyna yw rhybudd y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, Rebecca Evans heddiw.
Mae Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor wedi bod yn diogelu aelwydydd agored i niwed ac aelwydydd ar incwm isel yng Nghymru ers pum mlynedd, ond mae'r adroddiad blynyddol diweddaraf sy’n cael ei gyhoeddi heddiw yn awgrymu ei bod yn debygol bod rhai aelwydydd yng Nghymru yn dal i golli cyfle i gael y cymorth y mae ganddynt hawl i'w gael. Y llynedd, y gostyngiad ar gyfartaledd ar gyfer y rhai hynny sy'n rhan o'r cynllun oedd tua £940.
Yn 2018-19, cefnogodd y cynllun bron i 280,000 o aelwydydd - neu un o bob pump o aelwydydd yng Nghymru. Nid oedd tua 220,000 o'r rhain yn gorfod talu unrhyw dreth gyngor o gwbl. Gydag aelwydydd yn cael trafferth ymdopi oherwydd dull Llywodraeth y DU o ymdrin â diwygio lles, mae'r Gweinidog yn annog pawb i weithredu yn awr a gwirio a oes ganddynt hawl i gael cymorth i dalu eu bil treth gyngor dan ein Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor cenedlaethol.
Dywedodd Rebecca Evans:
“Er gwaetha ein cefnogaeth barhaus i'r aelwydydd mwyaf agored i niwed yng Nghymru, mae'r niferoedd sy'n manteisio ar Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor yn gostwng yn raddol. Rydym yn gwybod bod pobl ledled Cymru yn cael trafferth cael dau ben llinyn ynghyd, felly rwy'n annog pawb i fynd i'n gwefan a gwirio a ydynt yn gymwys ar gyfer y cynllun hwn neu un o'r gostyngiadau eraill sydd ar gael.”
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi comisiynu ymchwil allanol y mae'n gobeithio fydd yn helpu i adnabod yr aelwydydd a all fod yn colli cyfle. Mae'r ymchwil wrthi'n ceisio deall effaith Credyd Cynhwysol ar y nifer sy'n manteisio ar Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor a gwerth gostyngiadau'r dreth gyngor. Mae hefyd yn cynnwys effaith Credyd Cynhwysol ar ôl-ddyledion rhent yng Nghymru. Bydd yr ymchwil yn cael ei gyhoeddi yn gynnar yn 2020 a bydd y canfyddiadau yn cael eu defnyddio i helpu i gynllunio datblygiad Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor i'r dyfodol.
Yn y cyfamser, rydym yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a sefydliadau'r trydydd sector i archwilio sut y gellir gwella'r system dreth gyngor yn y tymor byr, y tymor canolig a'r tymor hir.