Kirsty Williams AC, Gweinidog Addysg
Ym mis Medi 2018, cyhoeddais fod adroddiad 'Addysgu: Proffesiwn Gwerthfawr', gan y Panel Annibynnol dan arweiniad yr Athro Mick Waters, wedi cael ei gyhoeddi. Lluniwyd yr adroddiad yn dilyn adolygiad eang o gyflog ac amodau'r proffesiwn addysgu yng Nghymru, ac roedd yn cynnwys 37 o gynigion i gefnogi ein diwygiadau addysg ar ôl i gyflog ac amodau athrawon gael eu datganoli ym mis Medi 2018.
Roedd un o'r prif argymhellion yn nodi y dylem sefydlu Comisiwn annibynnol i 'Ail-greu Addysg' yng Nghymru.
Rwyf wedi cymryd amser i feddwl am yr argymhelliad hwn ac mae'n bleser gennyf gyhoeddi bod Panel Arbenigol wedi cael ei benodi'n ddiweddar i gyflawni cam cyntaf y gwaith hwn. Rôl aelodau'r Panel Arbenigol a fydd yn arwain 'Cam 1' yw ymchwilio ac asesu sut mae addysg yn gweithio i ddisgyblion, eu teuluoedd, athrawon a staff cymorth yng Nghymru, a nodi'r themâu allweddol y mae angen eu hystyried ymhellach.
Rwyf wedi penodi'r Athro Mick Waters yn Gadeirydd y Panel Arbenigol a chaiff ei gynorthwyo gan:
- Joysy John, Cyfarwyddwr Addysg, Nesta
- Rhian Morgan Ellis, Pennaeth Ysgol Gyfun Cwm Rhondda
- Yr Athro y Fonesig Alison Peacock, Prif Weithredwr Coleg Addysgu Siartredig
- Dr Dafydd Trystan, Cofrestrydd Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Mae'r panel, a gyfarfu’n llawn am y tro cyntaf y bore yma, eisoes wedi dechrau ar y gwaith ymchwil cychwynnol ac wedi ymgysylltu â rhai o'n rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys undebau'r gweithlu addysg, er mwyn helpu i lywio'r gwaith pwysig hwn. Bydd barn, gwybodaeth broffesiynol ac arbenigedd y bobl hynny yn y sector addysg yng Nghymru yn cynnig persbectif gwerthfawr ar y materion hyn.
Bydd y panel yn parhau â'i waith drwy gydol yr haf cyn cyflwyno ei adroddiad i mi a'r Prif Weinidog cyn i'r Atlantic Rim Collaboratory (ARC) gyfarfod yng Nghymru ym mis Medi.
Bydd cyfarfod ARC yn gyfle gwych i weithio gyda phartneriaid rhyngwladol allweddol i drafod y themâu sy'n dod i'r amlwg yn ôl y Panel Arbenigol, craffu arnynt a'u gwerthuso.
Bydd hyn yn sail i'r broses ymchwil ac ymgynghori fanwl a gaiff ei chynnal ar Gam 2, pan gaiff Comisiwn llawn ei sefydlu'n ddiweddarach yn y flwyddyn.
Mae lluniau o aelodau'r panel wedi'u cynnwys yn y ddolen gyswllt sydd wedi’i hatodi: