Daeth yr ymgynghoriad i ben 1 Chwefror 2012.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o'r ymatebion (Saesneg yn unig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 176 KB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Hoffem glywed eich barn am ein cynigion am newidiadau i ddata digartrefedd statudol yr ydym yn casglu ar hyn o bryd gan awdurdodau lleol.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Pwrpas yr ymgynghoriad hwn yw ceisio barn defnyddwyr am y cynigion o:
- newidiadau pellach i ddatganiad cyfredol casglu data chwarterol a blynyddol digartrefedd; a
- chyflwyniad datganiad casglu data newydd am atal a chymorth digartrefedd dwywaith y flwyddyn.
Bydd eich cyfraniadau yn ein helpu i ddeall effaith y gallai’r newidiadau hyn gael ar unigolion a sefydliadau sy’n defnyddio’r ystadegau hyn. Bydd canlyniad yr ymgynghoriad hwn yn hysbysu ein penderfyniad os oes modd rhoi’r newidiadau hyn ar waith. Mae hyn yn cydymffurfio â Chod Ymarfer Ystadegau Swyddogol sy’n dweud bod ymgysylltu â defnyddwyr yn hanfodol i ffydd mewn ystadegau a sicrhau gwerth cyhoeddus uchaf.
Mae’r dyddiad cau ar gyfer yr ymgynghoriad ar newidiadau arfaethedig i Gasgliadau Data Digartrefedd wedi cael ei ymestyn i 1 Chwefror 2012. Y rheswm am hyn yw bod y cyfnod ymgynghori 6 wythnos wedi cynnwys y cyfnod gwyliau Nadolig 2011. Bydd yr ymestyniad yn caniatáu amser ychwanegol i ddarparu ymatebion.