Bydd parc busnes sy'n cynnig cysylltiadau rhwng Cymru a gweddill y byd yn cael ei lansio'n swyddogol ar 30 Medi.
Mae Parc Busnes Bro Tathan sydd o fewn Maes Awyr Caerdydd ac yn rhan o Ardal Fenter Sain Tathan yn ddatblygiad pwysig ac unigryw mewn ardal hardd, gan rannu'r safle â llain awyr masnachol ac wrth ymyl maes awyr rhyngwladol a phrifddinas y wlad.
Oherwydd treftadaeth ddaearyddol a hanesyddol gref yr ardal, cafodd Parc Busnes Bro Tathan ei enwi ar ôl y sant a sefydlodd eglwys yn yr ardal yn y 14eg ganrif. Mae'n adlewyrchu hefyd ddiwylliant dwyieithog cyfoethog Cymru.
Mae ei straplein Busnes • Awyr • Arloesedd/Business • Air • Innovation yn cyfleu ei botensial anferth a daw'r enw Bro Tathan yn gyfystyr yn y dyfodol â llwyddiant yn y sectorau hynny, gan groesawu busnesau newydd a chwmnïau sy'n enwog trwy'r byd fel ei gilydd.
Mae Parc Busnes Bro Tathan wrth lain awyr ym Mro Morgannwg, gafodd ei drosglwyddo o ddwylo'r llu awyr i reolaeth sifil ar 1 Ebrill 2019, gan wneud y ffordd yn glir i gyfleoedd busnes newydd a chyffrous.
Mae'r cwmni ceir eiconig Aston Martin eisoes â'i ffatri yno fel tenant angori ac mae yna ddigonedd o le ar y safle i ddenu rhagor o fusnesau a sefydliadau. Mae perchennog y tir, Llywodraeth Cymru, a'r asiant eiddo rhyngwladol, Savills, yn uchelgeisiol iawn ar gyfer y safle o ystyried ei faint a pha mor agos y mae i lain awyr a fydd yn ddelfrydol i gwmnïau fydd angen cludiant awyr i farchnadoedd yn y DU a thu hwnt.
Maes Awyr Caerdydd fydd yn rhedeg y llain awyr, ac mae cwmnïau fel eCube Solutions, un arall o denantiaid y safle, eisoes yn cymryd mantais ar yr arwyneb newydd sydd wedi'i osod ar y rhedffordd 1,800m o hyd.
Bydd y lansiad proffil uchel fydd yn cael ei gynnal ar 30 Medi yn hyrwyddo gweledigaeth a photensial Bro Tathan. Caiff datblygwyr tir ac eiddo ac amrywiaeth o sectorau ac arweinwyr busnes eu gwahodd i ddysgu mwy am y safle.
Dywedodd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates:
"Mae gan yr ardal 50 mlynedd o hanes yn y byd awyrofod ac amddiffyn, a sgiliau sydd eisoes wedi denu Aston Martin i Gymru, gan drechu cystadleuaeth 20 o leoliadau eraill ledled y byd.
"Bydd y cwmni ceir moethus ac eiconig yn cynhyrchu'r Aston Martin DBX newydd a cherbydau eraill yma, gan greu 750 o swyddi newydd a 1,000 arall yn y gadwyn gyflenwi.
"Mae Bro Tathan yn mynd i greu cyffro ledled y byd, ac rwy'n disgwyl ymlaen at groesawu llawer o gwmnïau eraill uchel eu bri wrth i'r safle dyfu.
Dywedodd Cyfarwyddwr Savills, Scott Caldwell:
"Mae'r cyfuniad unigryw o barc busnes a llain awyr masnachol mewn lleoliad ardderchog wrth faes awyr rhyngwladol a phrifddinas yn atyniad mawr i unrhyw fusnes. Byddwn yn ei hyrwyddo drwy'r byd ac rwy'n gwybod y bydd yn ennyn diddordeb brwd mewnfuddsoddwyr o bedwar ban.
Bydd y lansiad ar 30 Medi yn dadorchuddio brand newydd Bro Tathan gyda chyhoeddiadau cyffrous ynghylch datblygu'r safle yn y dyfodol.