Cylch gorchwyl
Crynodeb o ddiben y grŵp a sut y bydd yn gweithio.
- Gwella canlyniadau i blant drwy gefnogi teuluoedd i aros gyda'i gilydd, pan fo hynny er lles pennaf y plentyn, a lleihau'r angen i blant dderbyn gofal drwy ganolbwyntio ar atal ac ymyrryd yn gynnar ar draws yr holl ddarpariaeth o wasanaethau i blant, gan gynnwys darparwyr statudol a rhai annibynnol.
- Galluogi'r asiantaethau a gweithwyr proffesiynol perthnasol i reoli risg yn hyderus ac i ddarparu cefnogaeth 'ar fin gofal', gan sicrhau bod anghenion yn cael eu hasesu a'u diwallu’n gywir fel mai dim ond y plant cywir sy'n cael eu lletya, a hynny ar yr adeg gywir.
- Datblygu dull gweithredu cenedlaethol o ran plant sy'n derbyn gofal.
- Sicrhau bod awdurdodau lleol yn darparu ac yn comisiynu cymysgedd hyblyg a fforddiadwy o leoliadau o ansawdd da sy'n diwallu amrywiaeth eang o anghenion plant.
- Cynllunio llwybrau eglur i blant a phobl ifanc ar gyfer eu cyfnod yn derbyn gofal. Bydd y llwybrau'n parhau i ganolbwyntio ar gynlluniau gofal, byddant yn atal pethau rhag llithro, yn galluogi plant a phobl ifanc i ailymuno â'u teulu a'u ffrindiau pan fo hynny'n bosibl ac yn eu galluogi i symud ymlaen yn gadarnhaol i fod yn oedolion annibynnol.
- Hybu cryfhau lleisiau plant drwy bwysleisio pwysigrwydd gwasanaethau eirioli gweithredol a strategol.
- Cynyddu cefnogaeth i’r eithaf i'r rhai sy'n gadael gofal a sicrhau'r canlyniadau gorau iddynt.
- Ystyried anghenion penodol plant ar eu pennau eu hunain sy'n ceisio lloches, a phlant sy'n derbyn gofal sydd ag anabledd, gan gynnwys Plant Duon a Lleiafrifoedd Ethnig.
- Llunio darlun o'r rhesymau pam bod plant yn cyrraedd sefyllfa lle mae angen iddynt dderbyn gofal ac o brofiadau unigolion o'r system ofal drwy fynd ati'n systematig i gasglu ac ystyried data a thystiolaeth sydd ar gael.
- Comisiynu is-grwpiau gorchwyl a gorffen i fwrw ymlaen â darnau penodol o waith a'u cwblhau.