Daeth yr ymgynghoriad i ben 20 Awst 2019.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o’r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 632 KB
Mynediad at Fand Eang y Genhedlaeth Nesaf adolygiad o'r farchnad agored 2019: ardal ymyrryd wen , math o ffeil: XLSX, maint ffeil: 415 KB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Rydyn ni'n ceisio gwybodaeth gan ddarparwyr seilwaith band eang a rhyngrwyd am fuddsoddiadau ym mand eang y genhedlaeth nesaf a'r rhwydwaith gigabit.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Rydyn ni'n gofyn i'r holl ddarparwyr seilwaith band eang a rhyngrwyd cydnabyddedig yng Nghymru ddarparu gwybodaeth am lle mae buddsoddiadau ym mand eang y genhedlaeth nesaf ledled Cymru ar lefel eiddo eisoes wedi digwydd, yn cael eu gwneud, ac wedi'u cynllunio ar gyfer y tair blynedd nesaf.
Gyda'r wybodaeth hon byddwn ni'n llunio mapiau i ddiffinio adeiladau "Gwyn" ac adeiladau nad ydyn nhw’n Wyn fel y'u disgrifir yn y ddogfen "cais am wybodaeth". Bydd hyn yn cadarnhau'r adeiladau nad ydyn nhw'n gallu cael mynediad at wasanaethau band eang 30Mbps. Bydd ymgynghoriad cyhoeddus yn dilyn yr adolygiad hwn o'r farchnad agored.