Daeth yr ymgynghoriad i ben 2 Hydref 2011.
Manylion am y canlyniad
![](/sites/default/files/styles/file_thumb/public/publication-doc-thumbnails/120430responsereasonablequalcy-thumb_jpg.jpg?itok=8RH9ALbr)
Crynodeb o'r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 297 KB
![](/sites/default/files/styles/file_thumb/public/publication-doc-thumbnails/Full_list_of_responses__in_language_of_response_only_.jpg?itok=sY1XTKn-)
Rhestr lawn o'r ymatebion (yn iaith yr ymateb yn unig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 304 KB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Mae'r ymgynghoriad hwn yn gofyn am eich barn ynghylch cynigion i wneud y defnydd a wneir o addasiadau rhesymol mewn cymwysterau cyffredinol megis TGAU a Lefel A yn glir.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Gall ymgeiswyr anabl wneud cais am addasiadau rhesymol wrth sefyll cymwysterau. Fodd bynnag gan y cynlluniwyd cymwysterau i asesu’r hyn y mae ymgeisydd yn ei wybod yn ei ddeall ac yn gallu ei wneud dim ond at ryw bwynt penodol y gellir addasu cymhwyster heb i werth y cymhwyster hwnnw gael ei danseilio.
Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 wedi rhoi pŵer newydd i ni fel y rheoleiddiwr cymwysterau yng Nghymru. Mae hyn yn ein galluogi i bennu cyfyngiadau ar y defnydd a wneir o addasiadau rhesymol mewn cymwysterau cyffredinol.
Ein Cynigion
Mae’n cynigion yn ymdrin ag ystod eang o addasiadau rhesymol gan gynnwys esemptiadau marciau pasio darllenwyr ac ysgrifenyddion. Wrth eu datblygu mae hi wedi bod yn bwysig i ni ystyried:
- lleihau lefel yr anfantais y mae ymgeiswyr anabl yn ei hwynebu;
- sicrhau bod y cymhwyster yn rhoi darlun dibynadwy o wybodaeth sgiliau a dealltwriaeth;
- cynnal ffydd y cyhoedd yn y cymhwyster.
Y camau nesaf
Byddwn yn ystyried pob ymateb i’r ymgynghoriad hwn wrth gwblhau ein manylebau ar y defnydd a wneir o addasiadau rhesymol mewn cymwysterau cyffredinol. Byddwn hefyd yn rhannu’r wybodaeth hon gyda rheoleiddwyr cymwysterau eraill y DU gan fod llawer o gymwysterau ar gael yng Nghymru Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Dogfennau ymgynghori
![](/sites/default/files/styles/file_thumb/public/publication-doc-thumbnails/110711reasonablequalscy-thumb_jpg.jpg?itok=N7SPdPo1)
Dogfen ymgynghori , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 208 KB
![](/sites/default/files/styles/file_thumb/public/publication-doc-thumbnails/110711reasonableannex1cy-thumb_jpg.jpg?itok=3q09vf00)