Cylch gorchwyl
Amcanion y Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl a sut y bydd yn gweithio.
Cynnwys
Diben
Bydd y Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl yn goruchwylio Law yn Llaw at Iechyd Meddwl – Strategaeth ar gyfer Iechyd meddwl a Lles yng Nghymru a'i Chynllun Cyflawni ategol ac yn sicrhau eu bod yn cael eu rhoi ar waith. Bydd yn gwneud hynny drwy arwain a monitro'r cynnydd a thrwy hwyluso’r cyd-drefnu ar gyfer y dull trawsbynciol o weithio sydd ei angen ar draws Llywodraeth Cymru, Asiantaethau Statudol, y Trydydd Sector a'r Sector Annibynnol.
Y weledigaeth
Mae'r weledigaeth ar gyfer Iechyd Meddwl a Lles yng Nghymru wedi'i hamlinellu yn y chwe chanlyniad lefel uchel yn Law yn Llaw at Iechyd Meddwl:
- Mae iechyd meddyliol a lles y boblogaeth gyfan yn gwella.
- Mae effeithiau problemau iechyd meddwl a/neu salwch meddwl ar unigolion o bob oedran, eu teuluoedd a’u gofalwyr, cymunedau a’r economi yn cael eu hadnabod yn well ac yn lleihau.
- Mae anghydraddoldebau, stigma a gwahaniaethu a ddioddefir gan bobl sy’n cael problemau iechyd meddwl a salwch meddwl yn lleihau.
- Mae unigolion yn cael gwell profiad o ran y gefnogaeth a’r driniaeth a gânt ac mae ganddynt fwy o fewnbwn a rheolaeth dros benderfyniadau cysylltiedig.
- Mae’r mynediad at fesurau ataliol, ymyrraeth gynnar a thriniaethau, a’u hansawdd, yn well ac mae mwy o bobl yn gwella o ganlyniad i hynny.
- Mae gwerthoedd ac agweddau a sgiliau’r rhai sy’n trin neu’n cefnogi unigolion o bob oedran sydd â phroblemau iechyd meddwl neu salwch meddwl yn gwella.
Cylch gwaith
Bydd y Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl yn darparu arweiniad, awdurdod a chymorth i sicrhau bod y Strategaeth a'i Chynllun Cyflawni ategol yn cael eu gweithredu. Bydd y Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl:
- Yn goruchwylio’r gwaith o roi Law yn Llaw at Iechyd Meddwl a’i Chynllun Cyflawni ar waith, gan arwain ac adolygu’r cynnydd
- Yn cynghori Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y cynnydd, ar faterion sy'n dod i'r amlwg, ac ar flaenoriaethau ar gyfer y dyfodol.
- Yn sicrhau bod y gwaith o roi’r Strategaeth ar waith wedi'i seilio ar werthoedd hawliau dynol, gan hybu cydraddoldeb a mynd i'r afael ag anghydraddoldebau, a chan sicrhau bod y dull o weithredu'n seiliedig ar iechyd gydol oes
- Yn cryfhau perchnogaeth ar y Strategaeth drwy ennyn mwy o ddiddordeb ac annog mwy o bobl i gymryd rhan a chyfranogi.
Bydd yn gwneud hynny drwy:
- Sicrhau cyfranogiad priodol gan randdeiliaid, gan gynnwys y cyhoedd yn gyffredinol, pobl sydd â phrofiad personol eu hunain, defnyddwyr y gwasanaethau, teuluoedd a gofalwyr
- Goruchwylio gwaith is-grwpiau a grwpiau gorchwyl a gorffen y Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl; gan gytuno ar y blaenoriaethau i'w gweithredu, a chan adolygu'r cynnydd
- Adolygu'r adroddiadau cynnydd blynyddol a ddarperir gan y Byrddau Partneriaeth Lleol ar weithredu blaenoriaethau'r Cynllun Cyflawni yn eu hardaloedd
- Paratoi adroddiad blynyddol ar gyfer Cymru gyfan ar y cynnydd a'r camau nesaf
- Cytuno ar flaenoriaethau ar gyfer Cynlluniau Cyflawni dilynol, er mwyn ysgogi ac arwain y gwaith gweithredu dros gyfnod 10 mlynedd y Strategaeth
- Rhannu'r hyn a ddysgir ac arferion gorau ar wella lles meddyliol
- Cael pob aelod o'r Bwrdd i weithredu fel eiriolwyr ar gyfer nodau a dyheadau ehangach y Strategaeth.
Is-grwpiau
Mae Law yn Llaw at Iechyd Meddwl yn nodi y bydd y Grŵp Sicrhau Cyflawni ar gyfer Iechyd Meddwl Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd a’r Grŵp Sicrhau Cyflawni ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Hŷn a Dementia yn adrodd i’r Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl. Bydd grwpiau eraill yn cael eu cynnull yn ôl y gofyn, i gefnogi gwaith y Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl.
Llywodraethiant
Mae'r Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl yn atebol i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Bydd Cadeirydd y Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl yn adrodd am gynnydd gweithredu'r Strategaeth drwy adroddiad blynyddol i Ysgrifennydd y Cabinet.
Nid oes gan y Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl unrhyw bŵer statudol. Mae awdurdod a dylanwad y Bwrdd yn cael eu galluogi gan yr aelodau sy'n cymryd rhan ac sy'n dylanwadu ar newidiadau, a thrwy drefniadau personol yr aelodau hynny o ran atebolrwydd.
O ran cyflawni gwaith, y cyrff statudol perthnasol a'r darparwyr o'r sectorau eraill sy'n parhau i fod yn atebol. Caiff eu perfformiad ei reoli drwy brosesau sydd eisoes ar waith, ac nid drwy'r Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl.
Gellir sefydlu gweithgorau, fel y bo’n briodol, i gynorthwyo a’r gwaith o roi’r Cynllun Cyflawni ar waith, drwy’r Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl.
Bydd y Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl yn cael gwybod am gynnydd y gwaith drwy adroddiadau rheolaidd gan Swyddog Cyfrifol yn y Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl.
Aelodaeth
Atodir aelodaeth y Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl. Bydd cymorth polisi a chefnogaeth i’r Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl yn cael ei ddarparu gan swyddogion yr Is-adran Iechyd Meddwl a Grwpiau Agored i Niwed ac Is-adran Iechyd y Cyhoedd yn Llywodraeth Cymru.
Yn ychwanegol at yr aelodaeth graidd a nodir, estynnir gwahoddiad i unigolion eraill ddod i gyfarfodydd/gweithdai penodol yn ôl yr eitemau i'w trafod ar yr agenda, er mwyn sicrhau bod yr arbenigedd a'r profiad priodol ar gael i ganiatáu trafodaeth ar sail gwybodaeth. Bydd hynny'n bwysig, yn anad dim, er mwyn sicrhau bod swyddogion ar draws y llywodraeth ac ar draws y sectorau'n cymryd rhan.
Caiff yr aelodaeth ei hadolygu bob blwyddyn i sicrhau ei bod yn adlewyrchu safbwyntiau'r sawl sy'n berthnasol, er mwyn llunio blaenoriaethau a dylanwadu ar y blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn sydd ar ddod.
Disgwylir i'r aelodau weithredu fel rhyngwyneb rhwng y Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl a rhwydweithiau ledled Cymru. Bydd aelodaeth unrhyw aelodau nad ydynt yn ymgymryd â'r rôl hon, neu nad ydynt yn mynychu'r cyfarfodydd yn rheolaidd, yn cael ei therfynu yn ystod adolygiad blynyddol y Bwrdd.
Wrth gyfrannu at waith y Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl, gofynnir iddynt roi gwybod a ydynt yn cynrychioli safbwyntiau cyrff, asiantaethau neu grwpiau, neu a ydynt yn cynnig safbwyntiau personol eu hunain.
I sicrhau dilyniant, ni chaniateir i ddirprwyon fynychu'r cyfarfodydd ac eithrio dan amgylchiadau eithriadol.
Cyfrinachedd a gwrthdaro buddiannau
Disgwylir i'r aelodau hysbysu'r Cadeirydd pan fydd posibilrwydd o wrthdaro buddiannau o ran eitem benodol ar yr agenda.
Yr ysgrifenyddiaeth
Darperir yr ysgrifenyddiaeth gan Lywodraeth Cymru i'r Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl, gan roi cymorth rheoli gweithredol iddo i’w alluogi i gyflawni ei swyddogaethau.
Bydd yr ysgrifenyddiaeth:
- Yn trefnu cyfarfodydd gan ymgynghori â'r Cadeirydd ac Arweinydd y Strategaeth
- Yn paratoi ac yn dosbarthu'r agenda, y cofnodion, a'r papurau briffio
- Yn cydlynu’r cyswllt rhwng gweithgorau a rhanddeiliaid eraill
- Yn paratoi briffiau, adroddiadau a gohebiaeth.
Pa mor aml y cynhelir cyfarfodydd
Bydd y Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl yn cwrdd deirgwaith y flwyddyn. Mae'n bosibl y bydd gweithdai ychwanegol yn cael eu cynnal er mwyn caniatáu trafodaeth benodol ar faterion allweddol.
Caiff cyfleusterau fideo-gynadledda a/neu glywgynadledda eu defnyddio er mwyn galluogi’r nifer mwyaf posibl o aelodau i fynychu’r cyfarfodydd, ac i leihau’r amser teithio.
Cworwm
Bydd gofyn i'r Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl gael traean o'i aelodau allanol, a phresenoldeb y Cadeirydd, i wneud cworwm.
Adolygu
Caiff y trefniadau hyn eu hadolygu’n flynyddol.
Aelodaeth
Y Grŵp a gynrychiolir | Enw | Swydd a sefydliad |
---|---|---|
Cadeirydd y Bwrdd | Jo Jordan | Cyfarwyddwr Iechyd Meddwl, Llywodraethiant a Gwasanaethau Corfforaethol y GIG, Llywodraeth Cymru |
Swyddog Arweinol y Bwrdd | Ainsley Bladon | Arweinydd y Strategaeth Iechyd Meddwl, Llywodraeth Cymru |
Grŵp Cynghorol Uwch-nyrsys Cymru Gyfan | Hazel Powell | Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg |
Grŵp Arbenigol Seicoleg Gymwysedig mewn Gofal Iechyd | Jane Boyd | Cyfarwyddwr clinigol, Seicoleg a Therapïau Seicolegol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro |
Cymdeithas y Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol | Avril Bracey | Cadeirydd y Gymdeithas |
Cymdeithas Prif Swyddogion yr Heddlu | Jonathan Drake | Prif Gwnstabl Cynorthwyol |
Aelod Ofalwr | Jane Treharne-Davies | Gofalwr |
Arweinwyr Clinigol | Warren Lloyd | Cyfarwyddwr Meddygol Cyswllt, Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda |
Cyfarwyddwyr Iechyd Meddwl | Alan Lawrie | Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol ac Iechyd Meddwl, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf |
Arweinydd Tai (allanol) | I’w gadarnhau | I’w gadarnhau |
Iechyd Troseddwyr | Rob Heaton-Jones | Pennaeth y Tîm Lleihau Aildroseddu, y Gwasanaeth Cenedlaethol Rheoli Troseddwyr |
Iechyd Cyhoeddus Cymru / 1000 o Fywydau | Andrea Gray | Arweinydd Datblygu Iechyd Meddwl ar gyfer Cymru, 1000 o Fywydau |
Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol | I’w gadarnhau | I’w gadarnhau |
Coleg Brenhinol y Seiciatryddion | Maria Atkins | Seiciatrydd Ymgynghorol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda |
Defnyddiwr Gwasanaeth | Julie Murray-Jones | Defnyddiwr Gwasanaeth |
Defnyddiwr Gwasanaeth | Penny Gripper | Defnyddiwr Gwasanaeth |
Defnyddiwr Gwasanaeth | Mandy Ware | Defnyddiwr Gwasanaeth |
Y Trydydd Sector (WAMH) | Alun Thomas | Hafal |
Y Trydydd Sector (WAMH) | Ewan Hilton | Gofal |
Y Rhaglen Law yn Llaw dros Blant a Phobl Ifanc | Sian Stewart | Cyfarwyddwr Cenedlaethol Iechyd Meddwl y GIG, Arweinydd y Rhaglen |
Cynrychiolydd Is-gadeiryddion | Judith Hardisty | Is-gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda |
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru | Stewart Blythe | Prif Weithredwr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru |
Swyddogion Cynorthwyol Llywodraeth Cymru(yn ôl y gofyn) | ||
Llywodraeth Cymru | Dr Elizabeth Davies | Swyddog Meddygol Uwch, Pennaeth Iechyd Meddwl a Grwpiau Agored i Niwed |
Llywodraeth Cymru | Irfon Rees | Dirprwy Gyfarwyddwr, Iechyd y Cyhoedd |
Llywodraeth Cymru | Emma Williams | Dirprwy Gyfarwyddwr, Polisi Tai |
Ysgrifenyddiaeth | Swyddog dynodedig | Yr Is-adran Iechyd Meddwl a Grwpiau Agored i Niwed, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol |
I’w gadarnhau | I’w gadarnhau | Addysg |
Llywodraeth Cymru | Sue Beacock | Swyddog Nyrsio, Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu |
Llywodraeth Cymru | Albert Heaney | Cyfarwyddwr yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol |