Jeremy Miles AC, y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit
Ddydd Gwener 28 Mehefin, cynrychiolais Lywodraeth Cymru yng nghyfarfod Cydbwyllgor y Gweinidogion ar Negodiadau'r UE ym Manceinion. Roedd y cyfarfod yn canolbwyntio ar Negodiadau, yr Adolygiad Cysylltiadau Rhynglywodraethol a Fframweithiau Cyffredin. Gallwch weld yr ohebiaeth a gyhoeddwyd yn dilyn y cyfarfod yma:
Yn ystod y trafodaethau am y negodiadau, dywedais unwaith eto beth yw safbwynt Llywodraeth Cymru o ran galw am refferendwm arall (byddem yn ymgyrchu i aros) er mwyn osgoi'r sefyllfa echrydus o ymadael heb gytundeb. Nodais, er bod paratoadau yn cael eu gwneud ar gyfer ymadael heb gytundeb, er gwaetha'r ffaith nad hynny yw polisi Llywodraeth y DU, nid oedd unrhyw baratoadau'n cael eu gwneud ar gyfer cynnal refferendwm, nad yw ychwaith yn bolisi Llywodraeth y DU. Galwais ar Lywodraeth y DU i wneud y paratoadau hynny.
Galwais hefyd am broses i reoli negodiadau rhynglywodraethol ynghylch cytuniadau rhyngwladol megis y rheini i ddiogelu hawliau pleidleisio cilyddol mewn etholiadau llywodraeth leol a wnaed yn ddiweddar gyda Sbaen, Portiwgal a Lwcsembwrg.
Mewn perthynas â'r holl negodiadau rhyngwladol sy'n effeithio ar faterion datganoledig, pwysleisiais bod angen i Lywodraeth y DU ymrwymo i beidio â bwrw ymlaen fel arfer â safbwynt negodi'r DU, heb gytundeb llywodraethau eraill y DU.
Yn dilyn trafodaeth ar gynnydd yr Adolygiad Cysylltiadau Rhynglywodraethol, ddoe fe gyhoeddodd Llywodraeth y DU yr egwyddorion drafft ar gyfer cysylltiadau ochr yn ochr â'r ymrwymiad y pwysais arnynt amdano i lunio system ar gyfer datrys anghydfodau sy'n gweithio i bob rhan o'r DU ac sy'n cynnwys elfen annibynnol. Mae'r dogfennau ar gael yn:
https://www.gov.uk/government/publications/draft-principles-for-intergovernmental-relations
Rwy'n croesawu'r ffaith bod yr egwyddorion wedi'u cyhoeddi. Dyma gynnyrch y ffrwd waith a arweiniwyd gan swyddogion Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, rwy'n siomedig gyda chynnydd cyffredinol yr Adolygiad Cysylltiadau Rhynglywodraethol hyd yma. Rwyf wedi ysgrifennu ar y cyd ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Fusnes y Llywodraeth a Chysylltiadau Cyfansoddiadol yn Llywodraeth yr Alban, at Lywodraeth y DU i amlinellu'r camau nesaf y disgwyliwn y caiff eu cymryd o ran yr Adolygiad.
Yn y cyfarfod, trafodwyd hefyd y cynnydd da sydd wedi'i wneud o ran y Fframweithiau Cyffredin. Gallwch weld rhagor o wybodaeth am hyn yma: http://qna.files.parliament.uk/ws-attachments/1136451/original/Frameworks%20Products%20Update%20.pdf.
Pwysleisiais bod angen cynllun clir ar gyfer cyhoeddiadau ac ymgysylltu wrth i'r gwaith hwn fynd yn ei flaen, a byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau yn llawn.