Daeth yr ymgynghoriad i ben 10 Mai 2011.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 120 KB
Holl ymatebion (Saesneg yn unig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 4 MB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Canolbwyntia'r ymgynghoriad hwn ar sut y dylem ymdrin â chynllunio morol yng Nghymru a beth rydym angen ei ystyried wrth lunio y cynlluniau morol.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Mae’r ymgynghoriad hwn yn gofyn am sylwadau ar y modd yr ydym yn bwriadu mynd ati i ddatblygu cynllunio morol yng Nghymru yn unol â’n pwerau a’n cyfrifoldebau o dan Ddeddf y Môr a’r Arfordir 2009.
Mae’r ymgynghoriad yn amlinellu ein bwriad i ddatblygu cynllun cenedlaethol ar gyfer dyfroedd glannau Cymru yn ogystal â chynllun cenedlaethol ar gyfer dyfroedd môr mawr Cymru a’u mabwysiadu erbyn 2012/13. Yn ogystal mae’r ymgynghoriad yn cynnig opsiynau ynghylch cynllunio ar y lefel is-genedlaethol er mwyn cynnwys rhagor o fanylion yn y cynlluniau cenedlaethol. Mae hefyd yn gofyn cwestiynau ynghylch hynny.
Mae’r ddogfen ymgynghori hon:
- yn amlinellu’r nodweddion adnoddau a gweithgareddau cymdeithasol amgylcheddol ac economaidd allweddol presennol ym moroedd Cymru ynghyd â’r rheini sydd yn yr arfaeth ac yn sefydlu’r angen i ystyried pob un ohonynt wrth ddatblygu cynlluniau morol;
- yn mynegi ein gweledigaeth gyffredinol ar gyfer cyflawni datblygu cynaliadwy ym moroedd Cymru;
- yn pwysleisio ein hymrwymiad i sicrhau bod cynllunio morol a chynllunio ar y tir yn cydredeg yn effeithiol ac yn gofyn am sylwadau ar yr heriau;
- yn darparu’r cefndir i gynllunio morol yng Nghymru;
- yn egluro’r berthynas rhwng Datganiad Polisi Morol y DU a chynlluniau morol Cymru;
- yn amlinellu’r trefniadau cyfansoddiadol a gweinyddol a fydd yn berthnasol;
- yn cynnig cynlluniau cenedlaethol a dulliau gweithredu wrth ymdrin â chynllunio ar lefel is-genedlaethol;
- yn amlinellu’r berthynas gynllunio trawsffiniol;
- yn ymrwymo i feithrin perthynas ac ymgynghori â’r cyhoedd ac yn nodi’r egwyddorion yr ydym yn bwriadu eu dilyn i gyflawni hyn;
- yn amlinellu’r camau nesaf.
Gweithgarwch morol yng Nghymru
Gallwch un ai ddarllen y map gyda haenau neu heb haenau. Yn y ddogfen sydd â haenau gallwch droi'r haenau gwybodaeth ymlaen neu eu troi i ffwrdd. Mae'r ffeil gyda haenau yn ffeil fawr ac mae'n bosibl y gall gymryd tipyn o amser i'w lawrlwytho. Mae maint y ddogfen heb haenau lawer iawn yn llai.