Daeth yr ymgynghoriad i ben 18 Mawrth 2016.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o'r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 886 KB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Mae'r ymgynghoriad hwn yn rhan o'n gwaith parhaus o gysylltu â'r cyhoedd er mwyn datblygu gwasanaethau rheilffordd yng Nghymru.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Rydym wedi ymrwymo i roi gwasanaethau rheilffordd wrth galon ein system drafnidiaeth. Bydd hyn o gymorth i symud ein dyheadau ar gyfer economi lewyrchus a deinamig yn eu blaen. Mae’n rhaid cynllunio gwasanaethau mewn modd sy’n cwrdd ag anghenion teithwyr yr 21ain ganrif. Rydym yn awyddus i glywed eich barn am yr hyn a ddylai fod yn flaenoriaeth inni.
Mae’r ddogfen ymgynghori hon yn eich gwahodd i ateb amrywiaeth o gwestiynau ac mae’n cynnig cyfle ichi fynegi’ch barn ar ddyfodol y gwasanaethau rheilffordd yn rhanbarth Cymru a’r Gororau. Bydd eich atebion o gymorth inni lunio cynigion manwl ar gyfer y masnachfraint rheilffyrdd nesaf ar gyfer Cymru. Bydd y fasnachfraint honno’n destun ymgynghoriad pellach a chynhelir trafodaethau gyda’r cyhoedd.