Magu Plant. Rhowch amser iddo: amdanom ni
Mae Magu Plant. Rhowch amser iddo wedi’i ddatblygu gan Lywodraeth Cymru i ddarparu gwybodaeth, cyngor a chymorth ymarferol ar gyfer rhianta cadarnhaol i rieni a’r rhai sy’n rhoi gofal sy’n gyfrifol am fagu plant hyd at 18 oed.
Rydym yn gweithio gydag amryw o sefydliadau a gweithwyr proffesiynol gan gynnwys seicolegwyr, ymwelwyr iechyd, academyddion ac arbenigwyr ar rianta i ddarparu’r cyngor arbenigol.
Mae’r wefan hefyd yn cynnig dewisiadau eraill yn lle cosbi corfforol. Mae cosbi plant yn gorfforol yn anghyfreithlon yng Nghymru. Rydym am amddiffyn plant a’u hawliau, a rhoi’r un hawliau iddyn nhw ag sydd gan oedolion.
Mae pob plentyn a rhiant yn unigryw ac nid gosod cyfres gaeth o reolau ar fagu plant yw bwriad y wefan hon: ei nod yw rhoi’r wybodaeth, y cymorth a’r anogaeth sydd eu hangen ar rieni i ddewis y dull mwyaf cadarnhaol o fagu eu plant. Y bwriad yw rhoi syniadau i rieni er mwyn iddyn nhw allu gwneud penderfyniadau am yr hyn a fyddai’n gallu gweithio i’w plant a’u teulu nhw. Mae’n ceisio helpu rhieni i feithrin perthynas gadarnhaol ac iach â’u plant.
Gwybodaeth gyffredinol am fagu plant yw’r wybodaeth sy’n cael ei darparu, ac nid yw’n cymryd lle cyngor proffesiynol. Os oes gennych chi unrhyw bryderon am ddatblygiad neu ymddygiad eich plentyn, mae cymorth ynghylch magu plant yn cael ei ddarparu gan fydwragedd, ymwelwyr iechyd, meddygon teulu a’ch awdurdod lleol.